Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 7

7
Yr ysbryd beirniadol
1“Peidiwch â barnu pobl eraill ac ni’ch bernir chithau. 2Fel y byddwch chi’n barnu, felly’n union y cewch chithau’ch barnu, ac fe gewch eich mesur â’ch llinyn mesur chi eich hunain.
3“Pam rwyt ti’n gweld y smotyn sy yn llygad dy frawd a heb hyd yn oed sylwi ar yr ystyllen yn dy lygad dy hun? 4Neu pam rwyt ti’n dweud wrth dy frawd, ‘Gad i mi dynnu’r smotyn yna o’th lygad di,’ ac ystyllen yn dal yn dy lygad di? 5Y rhagrithiwr! tyn yr ystyllen o’th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna fe weli’n well i dynnu’r smotyn o lygad dy frawd.
6“Peidiwch â rhoi’r hyn sy’n gysegredig i gŵn na thaflu’ch perlau o flaen moch, rhag iddyn nhw’u sathru nhw dan draed a throi arnoch chi a’ch darnio.
Ffydd mewn gweddi
7“Gofynnwch, ac fe roddir i chi; chwiliwch, ac fe gewch; curwch ac agorir i chi. 8Oherwydd mae pob un sydd yn gofyn yn derbyn, a’r sawl sydd yn chwilio yn cael, a’r sawl sydd yn curo yn cael drws agored.
9“Oes yna rywun yn eich plith chi a fyddai’n rhoi carreg i’w blentyn a hwnnw wedi gofyn am dorth? 10Neu sarff ac yntau wedi gofyn am bysgodyn? 11Wel, ynteu, os gwyddoch chi, er gwaetha’ch drygioni, sut i roi i’ch plant yr hyn sy’n dda iddyn nhw, mae eich Tad nefol yn debycach o roi yr hyn sydd dda i’r rhai sy’n gofyn iddo.
12“Gwnewch chithau i eraill bopeth y dymunech i eraill ei wneud i chi: dyna ddysgeidiaeth y Gyfraith a’r proffwydi.”
Rhybuddion
13“Ewch i mewn drwy’r porth cyfyng oherwydd porth llydan yw’r porth sy’n arwain i ddinistr; mae digon o le ar y ffordd honno, a digon o bobl yn ei cherdded hi. 14Ond am y porth sy’n arwain i fywyd, un cyfyng yw hwnnw, a’r ffordd yn gul, ac ychydig ydy’r rhai sy’n dod o hyd i honno.
15“Cymerwch ofal rhag pregethwyr twyllodrus: fe ddôn nhw atoch wedi eu gwisgo fel defaid, ond calonnau bleiddiaid gwancus sydd ganddyn nhw. 16Wrth eu ffrwythau y byddwch chi’n eu nabod. Oes ’na rywun yn tynnu grawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall? 17Felly ffrwythau da ddaw ar bren iach, ond ffrwythau drwg ar bren afiach. 18All pren iach ddim rhoi ffrwythau drwg, na phren afiach roi ffrwythau da.
19“Pob pren nad yw’n rhoi ffrwyth da, fe’i torrir i lawr a’i losgi. 20Dyna pam y dywedaf y byddwch chi yn eu nabod wrth eu ffrwythau.
21“Nid pob un sy’n fy nghyfarch i, ‘Arglwydd! Arglwydd!’ fydd yn dod o dan deyrnas Nefoedd, dim ond yr hwn sy’n gwneud beth a fynno fy Nhad nefol. 22Pan ddaw’r dydd hwnnw, fe fydd llawer yn dweud wrthyf, ‘Arglwydd! Arglwydd! oni fuom ni’n proffwydo yn d’enw di, bwrw allan gythreuliaid yn d’enw di, ac yn gwneud gwyrthiau yn d’enw di?’ 23Yna fe fyddaf yn cyfaddef i’w hwyneb, ’Wnes i erioed mo’ch nabod chi: allan o’m golwg i, chi a’ch holl ddrygioni!”
Sylfeini
24“Felly, mae pob un sy’n clywed fy ngeiriau, ac yn ufuddhau i mi yn debyg i ddyn call a gododd ei dŷ ar graig. 25Mae’r glaw yn disgyn, yr afonydd yn codi, y gwynt yn chwythu, a’r cwbl yn hyrddio’u hunain ar y tŷ hwnnw; ond chwympodd ef ddim, oherwydd roedd craig yn sylfaen iddo. 26Ond mae pob un sy’n clywed fy ngeiriau a heb ufuddhau, yn debyg i ddyn ffôl a gododd ei dŷ ar dywod. 27Mae’r glaw yn disgyn, yr afonydd yn codi, y gwynt yn chwythu, ac yn lluchio’u hunain ar y tŷ hwnnw. Ac i lawr ag ef; a dyna ichi chwalfa!”
28Pan orffennodd yr Iesu siarad roedd y dyrfa’n synnu at ei ddysgeidiaeth. 29Yn wahanol i’w hathrawon y Gyfraith, roedd ef yn dysgu â grym awdurdod.

Dewis Presennol:

Mathew 7: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda