Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 8

8
Gwella cleifion
1Wedi iddo ddod i lawr o’r mynydd, aeth tyrfa fawr i’w ganlyn. 2A dyma un yn dioddef o’r gwahanglwyf yn dod, yn ymostwng, ac yn dweud, “Syr, os wyt ti’n dewis, fe elli di fy ngwella i.”
3Dyna’r Iesu’n estyn ei law, yn cyffwrdd ag ef, ac yn dweud, “Rydw i’n dewis, bydd yn iach.” Ac ar unwaith cafodd ei iacháu o’i wahanglwyf.
4“Paid â sôn gair am y peth wrth neb,” meddai’r Iesu wrtho; “ond dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r offrwm diolch yn ôl gorchymyn Moses, i brofi i bawb dy fod yn iach.”
5Pan ddaeth ef i mewn i Gapernaum, dyma gapten yn y fyddin Rufeinig ato 6ac ymbil arno, “Syr, mae gen i fachgen gartre yn gorwedd wedi ei barlysu ac mewn poen arteithiol.”
7“Mi ddof acw a’i wella,” meddai’r Iesu.
8“Syr,” meddai’r capten, “nid wy’n ddigon da i ti ddod i’m tŷ. Dywed air, dyna’i gyd, ac fe gaiff fy machgen ei wella. 9Dyn dan awdurdod ydw innau hefyd; mae gen i filwyr o danaf: fe ddywedaf wrth un, ‘Dos,’ mae e’n mynd, ac wrth un arall, ‘Tyrd,’ ac fe ddaw; ac wrth fy ngwas, ‘Gwna hyn,’ ac mae’n ei wneud.”
10Rhyfeddodd yr Iesu wrth glywed hyn.
“Credwch chi fi,” meddai wrth y rhai oedd yn ei ganlyn, “ni chefais i ffydd fel hyn, naddo, gan neb yn Israel. 11Fe ddyweda ichi beth arall: fe ddaw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin i eistedd wrth y ford gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas Nefoedd. 12Ond am y rhai a ddylai fod yn y Deyrnas, fe’u teflir nhw i’r tywyllwch y tu allan; a dyna lle bydd wylofain ac ysgyrnygu dannedd.”
13Yna, meddai yr Iesu wrth y capten,
“Dos ymaith. Ac yn union fel y credaist, ti gei dy ddymuniad.” A’r foment honno fe gafodd y bachgen ei wella.
14Pan ddaeth Iesu i dŷ Pedr, fe welodd ei fam-yng-nghyfraith yn gorwedd yn wael gan dwymyn. 15Cyffyrddodd â’i llaw hi, a dyma’r dwymyn yn mynd a hithau’n codi ac yn gweini arno Ef. 16Pan ddaeth yr hwyr fe ddaethon nhw â llawer ato yng ngafael cythreuliaid. Ag un gair fe yrrodd yr ysbrydion allan, a gwella’r cleifion i gyd. 17Felly y daeth geiriau’r proffwyd Eseia yn wir, pan ddywedodd,
“Fe ddygodd ei hun ein hafiechydon ni, a chymryd ein heintiau.”
Profi disgyblion
18Wrth weld tyrfaoedd o’i amgylch gorchmynnodd yr Iesu groesi i’r ochr draw. 19Ar hynny, daeth un o athrawon y Gyfraith i fyny ato a dweud, “Athro, fe ddilyna i di i b’le bynnag yr ei di.”
20Meddai’r Iesu wrtho, “Mae gan y llwynogod ffeuau; mae gan adar yr awyr nythod; ond does gan Fab y Dyn unman i roi’i ben i lawr.”
21Meddai un arall, un o’i ddisgyblion, wrtho, “Syr, gad imi’n gyntaf fynd i gladdu ’nhad.”
22Ond meddai’r Iesu wrtho, “Canlyn di fi, a gad i’r meirw gladdu eu meirw.”
Meistr y greadigaeth
23Yna fe aeth i’r cwch, a’i ddisgyblion yn ei ddilyn. 24Cododd storm enbyd nes bod y tonnau’n torri dros y cwch. Roedd ef yn dal i gysgu. 25Dyma nhw ato a’i ddeffro gan weiddi, “Syr, achub ni. Rydym ni’n boddi.”
26Meddai wrthyn nhw, “Pam rydych chi’n ofnus, chi sy’n wan eich ffydd?”
Yna fe gododd a cheryddu’r gwynt a’r môr. A bu tawelwch mawr. 27Pawb yn rhyfeddu ac yn holi, “Pa fath ddyn yw hwn? Mae hyd yn oed y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo!”
Meistr ar gythreuliaid
28Wedi iddo gyrraedd i’r ochr draw, sef i wlad y Gadareniaid, daeth i’w gyfarfod o’r beddau ddau ddyn a chythreuliaid yn eu meddiannu. Mor ffyrnig oedd y rhain fel na fentrai neb fynd y ffordd honno. 29Dyma nhw’n gweiddi arno, “Ti, Fab Duw, pam rwyt ti’n ymyrryd â ni? Wyt ti wedi dod yma i’n poeni ni cyn ein hamser?”
30Yn y pellter roedd cenfaint fawr o foch yn pori.
31“Os wyt ti am ein gyrru ni allan, gyr ni i’r moch yna,” erfyniodd y cythreuliaid.
32“I ffwrdd â chi,” meddai yntau.
A dyna nhw allan o’r dynion ac i mewn i’r moch; a dyna’r genfaint ar garlam dros y dibyn i’r llyn, gan foddi yn y dyfroedd.
33Dihangodd y gwŷr oedd yn gofalu am y moch, a rhedeg i’r dref i adrodd yr holl hanes, a’r hyn a ddigwyddodd i’r ddau â’r cythreuliaid ynddyn nhw. 34Ar hynny, dyna’r trigolion i gyd allan i gwrdd â’r Iesu, ac wedi dod o hyd iddo, erfyn arno adael eu hardal.

Dewis Presennol:

Mathew 8: FfN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda