Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Macabeaid 12

12
Llofruddio Iddewon Jopa
1Wedi gwneud y cytundeb hwn, aeth Lysias ymaith at y brenin, ac aeth yr Iddewon ati i drin y tir. 2Ond yr oedd rhai o'r llywodraethwyr yn y gwahanol ranbarthau, Timotheus ac Apolonius fab Geneus, a hefyd Hieronymus a Demoffon, yn ogystal â Nicanor, capten y Cypriaid, yn gwrthod gadael iddynt fyw'n dawel a dilyn eu gorchwylion yn heddychlon. 3A dyma'r anfadwaith annuwiol a gyflawnodd trigolion Jopa: heb unrhyw arwydd o elyniaeth tuag atynt, gwahoddasant yr Iddewon oedd yn byw yn eu plith i fynd, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, i mewn i gychod oedd yn barod ganddynt, 4yn unol â phleidlais y dref i gyd; a chan eu bod yn awyddus i fyw mewn heddwch fe gydsyniodd yr Iddewon, heb ddrwgdybio dim. Pan oeddent allan ar y môr, fe'u bwriwyd i'r dyfnder, ddau gant neu fwy ohonynt. 5Pan glywodd Jwdas am y weithred greulon a wnaethpwyd ar ei gyd-Iddewon, rhoddodd ei orchmynion i'w wŷr, 6ac wedi galw ar Dduw, y Barnwr cyfiawn, fe ymosododd ar lofruddion ei frodyr. Gosododd eu porthladd ar dân yn ystod y nos a llosgi eu cychod yn ulw, a thrywanu'r rheini oedd wedi ffoi yno am loches. 7Ond o gael pyrth y dref wedi eu cloi, aeth oddi yno, gan fwriadu dychwelyd a thynnu o'r gwraidd holl gymuned ddinesig Jopa. 8A phan glywodd fod pobl Jamnia yn dymuno gwneud yr un peth i'r Iddewon oedd yn byw yn eu plith, 9fe ymosododd arnynt hwythau liw nos a gosod eu porthladd a'u llongau ar dân, fel y gwelwyd llewyrch y fflamau o Jerwsalem, pellter o bedwar cilomedr a deugain.
Buddugoliaethau Jwdas yn Gilead
1 Mac. 5:9–54
10Wedi iddynt gilio tuag un cilomedr a hanner oddi yno yn eu cyrch yn erbyn Timotheus, ymosododd pum mil neu fwy o Arabiaid arno, ynghyd â phum cant o wŷr meirch. 11Bu brwydr galed, ond trwy gymorth Duw, Jwdas a'i wŷr a orfu. Erfyniodd y nomadiaid gorchfygedig ar Jwdas iddo gynnig ei law iddynt mewn heddwch, gan addo rhoi da byw i'w bobl ef, a'u helpu mewn ffyrdd eraill. 12Yr oedd Jwdas o'r farn y byddent yn wirioneddol ddefnyddiol mewn llawer ffordd, a chydsyniodd i fyw mewn heddwch â hwy; ac wedi cael cynghrair aethant ymaith i'w pebyll.
13Ymosododd hefyd ar dref oedd wedi ei chryfhau â phontydd#12:13 Y mae'r darlleniad yn ansicr. a'i hamddiffyn o boptu â muriau. Yr oedd ei thrigolion yn gymysgedd o bob cenedl, a'i henw oedd Caspin. 14Yr oedd nerth y muriau a'r stôr o fwydydd oedd ganddynt wedi llenwi'r amddiffynwyr â hyder, a dechreusant ddifrïo a sarhau Jwdas a'i wŷr i'r eithaf; ond yn waeth na hynny, dechreusant gablu ac yngan pethau ffiaidd. 15Ond galwodd Jwdas a'i wŷr ar Benarglwydd mawr y byd, yr Un yn amser Josua a chwalodd i'r llawr furiau Jericho heb na thrawst taro na pheiriant rhyfel, ac yna ymosodasant yn ffyrnig ar y mur. 16Ac wedi iddynt, trwy ewyllys Duw, oresgyn y dref, gwnaethant gyflafan y tu hwnt i bob disgrifiad, nes bod y llyn gerllaw, a oedd yn bedwar can medr o led, i'w weld fel petai'n gorlifo â gwaed.
Jwdas yn Gorchfygu Byddin Timotheus
1 Mac. 5:37–44
17Wedi cilio tua chan cilomedr a hanner oddi yno, daethant i ben eu taith yn Charax, cartref yr Iddewon a elwir y Twbiaid. 18Ond ni chawsant afael ar Timotheus yn yr ardal honno; yr oedd erbyn hynny wedi mynd oddi yno heb gyflawni dim, ond nid cyn gadael garsiwn mewn un man, a hwnnw'n un cryf iawn. 19Ac aeth Dositheus a Sosipater, dau o gadfridogion Macabeus, ar gyrch a difa'r gwŷr a adawyd ar ôl yn y gaer gan Timotheus, dros ddeng mil ohonynt. 20Trefnodd Macabeus y fyddin oedd gydag ef yn gatrodau, a phenodi capteiniaid arnynt.#12:20 Yn ôl darlleniad arall, a'u penodi'n gapteiniaid arnynt. Yna cychwynnodd ar frys yn erbyn Timotheus, a oedd yn arwain byddin o gant ac ugain o filoedd o wŷr traed, a dwy fil a hanner o wŷr meirch. 21Pan hysbyswyd iddo fod Jwdas yn ymosod, anfonodd Timotheus y gwragedd a'r plant, ynghyd â holl gyfreidiau'r fyddin, ymaith o'i flaen i le a elwir Carnaim, man anodd gwarchae arno ac anodd ei gyrraedd o achos culni'r holl fynedfeydd. 22Ond pan ddaeth catrawd gyntaf Jwdas i'r golwg, daliwyd y gelyn gan fraw ac arswyd o achos ymddangosiad yr Un sy'n gweld popeth, a rhuthrasant ar ffo, pob un yn rhedeg i gyfeiriad gwahanol, nes clwyfo llawer ohonynt gan eu gwŷr eu hunain, a'u trywanu gan flaenau eu cleddyfau. 23Aeth Jwdas ati i erlid y drwgweithredwyr hynny'n galetach nag erioed, a'u gwanu'n ddi-ball, nes lladd hyd at ddeng mil ar hugain ohonynt. 24Cwympodd Timotheus ei hun i afael gwŷr Dositheus a Sosipater, ond ymbiliodd yn ystrywgar iawn am gael ei arbed a'i ollwng yn rhydd am y rheswm ei fod yn dal rhieni llawer ohonynt, a brodyr rhai, ac na fyddai cyfrif amdanynt. 25Gan iddo ymrwymo'n ddifrifol drosodd a thro yr anfonai hwy'n ôl yn ddianaf, fe'u gollyngasant yn rhydd er mwyn achub eu brodyr.
Buddugoliaethau Pellach Jwdas
1 Mac. 5:45–54
26Aeth Jwdas yn ei flaen i ymosod ar Carnaim a theml Atargatis, a gwnaeth laddfa ar bum mil ar hugain o bobl. 27Wedi troi'r rhain yn eu hôl a'u difa, arweiniodd ei fyddin yn erbyn Effron, tref gaerog lle trigai Lysias#12:27 Yn ôl darlleniad arall, tref gaerog lle trigai lluoedd o bobl. ynghyd â lluoedd o bobl o bob hil. Ond o flaen y muriau yr oedd amddiffynwyr glew, dynion ifainc cryfion, a thu mewn yr oedd cyflenwad da o beiriannau rhyfel a thaflegrau. 28Wedi galw ar y Penarglwydd sy'n chwilfriwio â'i rym holl nerth y gelyn, cawsant y trechaf ar y dref, a gadael yn gelanedd hyd at bum mil ar hugain o'r amddiffynwyr. 29Oddi yno aethant i ymosod ar Scythopolis, tref sy'n gan cilomedr ac un ar ddeg o Jerwsalem. 30Ond tystiodd yr Iddewon oedd wedi ymsefydlu yno fod pobl Scythopolis yn llawn ewyllys da tuag atynt, a'u bod yn eu trin yn garedig yn nyddiau adfyd. 31Wedi diolch iddynt a'u hannog yn ogystal i fod yn gyfeillgar tuag at y genedl yn y dyfodol hefyd, dychwelsant i Jerwsalem ychydig cyn Gŵyl yr Wythnosau.
Jwdas yn Gorchfygu Gorgias
32Wedi Gŵyl y Pentecost, fel y gelwir hi, gwnaethant gyrch ar Gorgias, llywodraethwr Idwmea. 33Daeth ef i'w cyfarfod gyda thair mil o wŷr traed a phedwar cant o wŷr meirch. 34Cwympodd nifer bychan o'r Iddewon yn rhengoedd y frwydr. 35Ond yr oedd dyn o'r enw Dositheus, un o wŷr Bacenor,#12:35 Yn ôl darlleniad arall, un o'r Twbiaid. march-filwr cryf, wedi cael gafael yn Gorgias; yr oedd yn ei ddal gerfydd ei fantell ac yn ei lusgo trwy nerth braich yn y bwriad o gymryd y dyn melltigedig hwnnw'n garcharor. Ond rhuthrodd un o'r gwŷr meirch o Thracia arno a thorri ei fraich gyfan i ffwrdd, a dihangodd Gorgias i Marisa. 36Gan fod Esdris a'i wŷr wedi bod yn ymladd ers amser maith yn diffygio, galwodd Jwdas ar yr Arglwydd i ddangos yn amlwg ei fod yn ymladd gyda hwy ac yn eu tywys yn y rhyfel. 37A chan dorri allan i floeddio emynau yn ei famiaith, ymosododd yn annisgwyl ar Gorgias a'i wŷr, a'u gyrru ar ffo.
Gweddïo dros y Gwŷr a Laddwyd yn y Frwydr
38Wedi cael trefn ar ei fyddin unwaith eto, aeth Jwdas yn ei flaen nes cyrraedd tref Adulam; a chan fod y seithfed dydd ar eu gwarthaf, fe'u purasant eu hunain yn ôl eu harferiad a chadw'r Saboth yno. 39Trannoeth, gan ei bod yn hen bryd gwneud hynny, aeth Jwdas a'i wŷr i ddwyn yn ôl gyrff y rhai oedd wedi cwympo, er mwyn eu claddu gyda'u perthnasau ym meddrodau eu hynafiaid. 40A chawsant fod gan bob un o'r meirw dan ei grys amwletau cysegredig o'r delwau yn Jamnia, pethau y mae'r gyfraith yn eu gwahardd i Iddewon; a daeth yn amlwg i bawb mai dyna pam y cwympodd y dynion hyn. 41Gan hynny, moliannodd pawb weithredoedd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, sy'n dod â phethau cudd i'r amlwg, 42ac aethant i weddi, gan erfyn am olchi ymaith yn llwyr y pechod a gyflawnwyd. A chymhellodd Jwdas, y dyn anrhydeddus hwnnw, y llu i'w cadw eu hunain yn ddibechod, a hwythau wedi gweld â'u llygaid eu hunain ganlyniad pechod y rhai a gwympodd. 43Wedi gwneud casgliad o ryw ddwy fil o ddrachmâu o arian trwy gyfraniad gan bob un o'i wŷr, anfonodd y cwbl i Jerwsalem er mwyn offrymu aberth dros bechod—gweithred hardd ac anrhydeddus gan un a wnâi gyfrif o'r atgyfodiad; 44oherwydd os nad oedd yn disgwyl atgyfodiad y rhai a gwympodd, peth afraid a diystyr fyddai gweddïo dros gyrff meirw; 45ond os oedd â'i olwg ar y wobr ddigymar a gedwir ar gyfer y rhai sy'n huno mewn duwioldeb, yr oedd ei fwriad yn sanctaidd a duwiol; a dyna pam yr offrymodd aberth puredigaeth dros y meirw fel y caent eu rhyddhau o'u pechod.

Dewis Presennol:

2 Macabeaid 12: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda