Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Macabeaid 11

11
Jwdas Macabeus yn Gorchfygu Lysias
1 Mac. 4:26–35
1Yr oedd Lysias, dirprwy a châr y brenin a phrif weinidog y llywodraeth, yn ddig iawn o achos y digwyddiadau hyn, ac yn fuan iawn wedyn 2fe gasglodd ynghyd tua phedwar ugain mil o wŷr, a'r holl wŷr meirch, a chychwyn yn erbyn yr Iddewon. Ei fwriad oedd troi'r ddinas yn drigfan i Roegiaid, 3trethu'r deml yn yr un modd â holl gysegrleoedd eraill y Cenhedloedd, a gwneud yr archoffeiriadaeth yn swydd i'w gwerthu'n flynyddol. 4Ni wnaeth unrhyw gyfrif o nerth Duw, gan gymaint ei falchder yn ei ddegau o filoedd o wŷr traed, ei filoedd o wŷr meirch, a'i bedwar ugain eliffant. 5Daeth i mewn i Jwdea ac i gyffiniau Bethswra, lle caerog tua deg cilomedr ar hugain#11:5 Yn ôl darlleniad arall, tua chilomedr. o Jerwsalem, a'i osod dan warchae cyfyng. 6Pan glywodd Macabeus a'i wŷr fod Lysias yn gwarchae ar y caerau, dechreusant hwy a'r holl bobl alarnadu ac wylofain ac ymbil ar yr Arglwydd iddo anfon angel da i achub Israel. 7Ond Macabeus ei hun a gododd ei arfau gyntaf, a chymell y lleill i fynd gydag ef i gynorthwyo'u brodyr, er gwaethaf y peryglon ofnadwy; ac fel un gŵr rhuthrasant allan yn frwd. 8A hwythau'n dal yno, yng nghyffiniau Jerwsalem, fe welwyd marchog mewn gwisg wen yn eu harwain ac yn chwifio arfau aur. 9Ag un llais bendithiodd pawb y Duw trugarog, ac ymwroli nes eu bod yn barod i ymosod, nid ar ddynion yn unig ond ar y bwystfilod ffyrnicaf ac ar furiau haearn. 10Aethant yn eu blaenau yn arfog, gyda'r marchog nefol yr oedd yr Arglwydd o'i drugaredd wedi ei anfon i ymladd o'u plaid. 11Fel llewod, llamasant ar y gelyn a gadael un fil ar ddeg ohonynt yn gelain, ynghyd â mil a chwe chant o'r gwŷr meirch. Gyrasant y lleill i gyd ar ffo, 12y mwyafrif ohonynt wedi eu clwyfo ac yn dianc am eu bywydau heb eu harfau; a thrwy ffoi fel llwfrgi yr achubodd Lysias yntau ei groen.
Lysias yn Gwneud Cytundeb â'r Iddewon
1 Mac. 6:55–61
13Ond nid oedd yn ddyn ynfyd. Wedi pwyso a mesur wrtho'i hun y darostyngiad a gawsai, a dod i'r casgliad fod yr Hebreaid yn anorchfygol am fod y Duw nerthol yn ymladd o'u plaid, 14anfonodd atynt a'u perswadio i wneud cytundeb ar delerau hollol gyfiawn; a dywedodd y byddai trwy ei berswâd yn gorfodi'r brenin i fod yn gyfaill iddynt. 15Yn ei ofal am les y bobl, derbyniodd Macabeus bob un o argymhellion Lysias; oherwydd yr oedd y brenin wedi cydsynio â phopeth a fynnodd Macabeus ar ran yr Iddewon yn ei lythyrau at Lysias.
Llythyr Lysias at yr Iddewon
16Yr oedd cynnwys y llythyrau a ysgrifennwyd gan Lysias at yr Iddewon fel a ganlyn:
“Lysias at bobl yr Iddewon, cyfarchion. 17Y mae eich cynrychiolwyr Ioan ac Absalom wedi cyflwyno imi y ddogfen a welwch isod ac wedi ceisio gennyf gymeradwyo'r hyn a fynegwyd ynddi. 18Yr wyf wedi esbonio i'r brenin bopeth yr oedd yn rhaid ei gyfeirio ato ef; ac y mae ef wedi cydsynio â phopeth hyd y gallai.#11:18 Yn ôl darlleniad arall, ac yr wyf wedi cydsynio â phopeth a ddôi dan f'awdurdod i. 19Gan hynny, os pery eich ewyllys da tuag at y llywodraeth, fe geisiaf finnau hyrwyddo eich buddiannau yn y dyfodol hefyd. 20Ynglŷn â'r materion hyn a'r manylion pellach#11:20 Yn ôl darlleniad arall, Ynglŷn â'r manylion hyn.: yr wyf wedi gorchymyn i'r dynion hyn a'm cynrychiolwyr innau eu trafod gyda chwi. 21Ffarwel. Y pedwerydd ar hugain o fis Dioscorus#11:21 Groeg, Dioscorinthius. yn y flwyddyn 148#11:21 H.y., 164 C.C..”
Llythyr y Brenin at Lysias
22Dyma gynnwys llythyr y brenin:
“Y Brenin Antiochus at Lysias ei frawd, cyfarchion. 23Gan fod ein tad wedi mynd i blith y duwiau, ein dymuniad yw i ddeiliaid ein teyrnas gael dilyn eu dibenion eu hunain heb unrhyw darfu arnynt. 24Yr ydym wedi clywed nad yw'r Iddewon yn dymuno newid i'r ffyrdd Helenistaidd o fyw fel y mynnai fy nhad, ond ei bod yn well ganddynt eu ffyrdd eu hunain, a'u bod yn gofyn caniatâd i ddilyn eu cyfreithiau eu hunain. 25Gan hynny, yn unol â'n dewis nad oes tarfu i fod ar y genedl hon mwy na'r un arall, ein dyfarniad yw bod eu teml i gael ei hadfer iddynt a'u bod i fyw yn ôl arferion eu hynafiaid. 26Bydd gystal, felly, ag anfon fy nyfarniad atynt a rhoi dy law dde iddynt, fel o wybod beth yw fy mwriad y gallant godi eu calonnau a byw'n ddedwydd yn eu gofal am eu dibenion eu hunain.”
Llythyr y Brenin at y Genedl
27Yr oedd llythyr y brenin at y genedl fel a ganlyn:
“Y Brenin Antiochus at senedd yr Iddewon ac at weddill yr Iddewon, cyfarchion. 28Dymunwn ffyniant i chwi. Yr ydym ninnau'n iach. 29Y mae Menelaus wedi ein hysbysu am eich dymuniad i ddychwelyd i'ch cartrefi eich hunain. 30Gan hynny, bydd amnest i unrhyw un fydd wedi dychwelyd erbyn y degfed ar hugain o fis Xanthicus. 31Y mae caniatâd i'r Iddewon arfer eu bwydydd a'u cyfreithiau eu hunain megis cynt, ac nid aflonyddir ar neb ohonynt mewn unrhyw fodd o achos dim a wnaethpwyd mewn anwybodaeth. 32Yr wyf hefyd yn anfon Menelaus i'ch calonogi. 33Ffarwel. Y pymthegfed o fis Xanthicus, yn y flwyddyn 148#11:33 H.y., 164 C.C..”
Llythyr y Rhufeiniaid at yr Iddewon
34Anfonodd y Rhufeiniaid hefyd y llythyr canlynol atynt:
“Cwintus Memius a Titus Manius, llysgenhadon y Rhufeiniaid, at bobl yr Iddewon, cyfarchion. 35Ynglŷn â'r cytundebau â chwi a wnaethpwyd gan Lysias, câr y brenin, yr ydym ninnau hefyd yn eu cymeradwyo. 36Ond am y materion y barnodd ef fod yn rhaid eu cyfeirio at y brenin, ystyriwch hwy'n ofalus ac yna anfonwch rywun atom yn ddi-oed, fel y gallwn eu cyflwyno mewn modd a fydd yn fuddiol i chwi; oherwydd yr ydym yn cychwyn am Antiochia. 37Brysiwch, gan hynny, i anfon rhywrai atom, i ninnau gael gwybod beth yw eich barn. 38Ffarwel. Y pymthegfed o fis Xanthicus yn y flwyddyn 148#11:38 H.y., 164 C.C..”

Dewis Presennol:

2 Macabeaid 11: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda