Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Esdras 15

15
Proffwydoliaethau Pellach y Drygau i Ddod
1“Llefara'n awr yng nghlyw fy mhobl y geiriau proffwydol a osodaf yn dy enau,” medd yr Arglwydd, 2“a phâr eu hysgrifennu hwy ar bapur, oherwydd y maent yn eiriau ffyddlon a gwir. 3Paid ag ofni unrhyw gynllwynion yn dy erbyn, na gadael i anghrediniaeth dy wrthwynebwyr darfu arnat. 4Oherwydd bydd pob un nad yw'n credu yn marw yn#15:4 Neu, oherwydd. ei anghrediniaeth.”
5“Edrych,” medd yr Arglwydd, “yr wyf fi'n pentyrru drygau ar y byd—cleddyf a newyn, marwolaeth a dinistr— 6oherwydd y mae anghyfiawnder wedi ymledu dros yr holl ddaear, a throseddau dynion wedi cyrraedd eu penllanw.” 7Am hynny dywed yr Arglwydd: 8“Nid wyf am gadw'n dawel bellach ynglŷn â'u pechodau a'u gweithredoedd annuwiol, na goddef eu harferion anghyfiawn. Gwêl fel y mae gwaed dieuog a chyfiawn yn galw arnaf fi, ac eneidiau'r cyfiawn yn galw'n ddi-baid. 9Mi fynnaf ddial eu cam hwy,” medd yr Arglwydd, “a chymryd baich eu gwaed dieuog hwy i gyd arnaf fy hun. 10Edrych, y mae fy mhobl yn cael eu harwain fel praidd i'r lladdfa; ni adawaf iddynt aros mwyach yng ngwlad yr Aifft, 11ond dygaf hwy allan â llaw gadarn ac â braich ddyrchafedig, a thrawaf yr Aifft â phla, fel y gwneuthum o'r blaen, a difrodi ei holl dir. 12Galared yr Aifft a'i holl sylfeini dan bla'r chwipio a'r cystwyo y mae'r Arglwydd yn ei ddwyn arni. 13Galared yr amaethwyr sy'n trin y tir am fod eu had yn pallu, a'u coed yn cael eu difetha gan falltod a chenllysg, a chan dymestl#15:13 Tebygol. Lladin, seren. ofnadwy. 14Gwae'r byd a'i drigolion! 15Oherwydd y mae'r cleddyf wedi nesáu i ddwyn dinistr arnynt hwy. Bydd un genedl yn codi i ymladd yn erbyn y llall, â chleddyfau yn eu dwylo. 16Anhrefn fydd rhan y ddynol ryw: y naill garfan yn cael y trechaf ar y llall, ac yn eu rhwysg heb falio dim am na'r brenin na'r pennaf o'u gwŷr mawr. 17Bydd rhywun am fynd i ddinas, ond yn methu, 18oherwydd o achos eu balchder bydd eu dinasoedd mewn terfysg, eu tai ar lawr, a'u trigolion mewn ofn. 19Oherwydd prinder bara a chystudd mawr, ni bydd trugaredd yn cadw neb rhag ymosod ar gartref cymydog â'r cleddyf, ac ysbeilio'i feddiannau.”
20“Edrychwch,” medd Duw, “yr wyf yn galw ynghyd holl frenhinoedd y ddaear i'm hofni i, o godiad haul ac o'r de, o'r dwyrain ac o Lebanon; yr wyf yn eu galw i droi a dychwelyd yr hyn a roddwyd iddynt. 21Fel y maent hwy wedi gwneud hyd y dydd heddiw i'm hetholedigion i, felly y gwnaf finnau iddynt hwy wrth dalu'r pwyth yn ôl.” 22Dyma eiriau yr Arglwydd Dduw: “Ni bydd fy llaw dde yn arbed pechaduriaid, ac ni bydd y cleddyf yn ymatal rhag y rhai sy'n tywallt gwaed dieuog ar y ddaear.” 23Torrodd ei ddicter ef allan yn dân, gan ddifa'r ddaear i'w sylfeini, a'r pechaduriaid fel gwellt yn llosgi. 24“Gwae'r rhai sy'n pechu a heb gadw fy ngorchmynion,” medd yr Arglwydd; 25“nid arbedaf hwy. Ymaith oddi wrthyf, chwi wrthgilwyr! Peidiwch â halogi fy sancteiddrwydd#15:25 Neu, fy nghysegr. i.” 26Y mae'r Arglwydd yn adnabod pawb sy'n ymwrthod ag ef, ac am hynny y mae wedi eu traddodi hwy i farwolaeth a distryw. 27Oherwydd y mae drygau eisoes wedi dod ar y ddaear, ac ynddynt yr arhoswch; ni wareda Duw chwi, am ichwi bechu yn ei erbyn.
Gweledigaeth Erchyll
28Dyma weledigaeth erchyll, yn ymddangos o gyfeiriad y dwyrain: 29llu o ddreigiau Arabia yn dod allan mewn cerbydau lawer, ac o ddydd cyntaf eu taith eu hisian yn taenu dros yr holl ddaear, gan beri braw a dychryn i bawb o fewn clyw. 30Yna y Carmoniaid, yn wallgof gan ddicter, yn rhuthro fel baeddod o'r goedwig, ac â'u holl rym yn bwrw i frwydr ddi-ildio â hwy, ac yn rhwygo rhandir yr Asyriaid â'u dannedd mawrion. 31Wedyn bydd y dreigiau, o gofio'u hanian gynhenid, yn cael y trechaf, ac o droi yn cydymosod â'u holl nerth i erlid y Carmoniaid, 32a hwythau wedi eu syfrdanu a'u distewi gan rym y dreigiau yn hel eu traed. 33Ond bydd gelyn yn llercian i ymosod arnynt o diriogaeth yr Asyriaid, ac yn lladd un ohonynt; daw ofn ac arswyd ar eu byddin, ac ansicrwydd ar eu brenhinoedd.
34Dyma gymylau yn ymestyn o'r dwyrain ac o'r gogledd hyd y de! Y mae eu golwg yn dra erchyll, yn llawn dicter a drycin. 35Trawant yn erbyn ei gilydd, a gollwng dros y ddaear lu o dymhestloedd, heblaw eu tymestl#15:35 Tebygol. Lladin, lu o sêr, heblaw eu seren. eu hunain; bydd gwaed a dywelltir gan y cleddyf yn cyrraedd hyd at fol ceffyl, 36at forddwyd dyn ac at esgair camel. 37Bydd ofn a dychryn mawr dros y ddaear, a phawb a wêl y dicter hwnnw yn crynu, wedi eu dal gan ddychryn. 38Yna cynullir llu o gymylau o'r de ac o'r gogledd, ac eraill o'r gorllewin. 39Ond cryfach fydd y gwyntoedd o'r dwyrain, a threch na'r cwmwl a'r sawl a'i cyffrôdd yn ei ddicter; bydd ffyrnigrwydd y dwyreinwynt yn gyrru ar led i'r de a'r gorllewin y dymestl#15:39 Tebygol. Lladin, seren. Felly hefyd yn adn. 40 a 44. a oedd i ddwyn dinistr. 40Bydd cymylau mawr a chryf, yn llawn dicter, yn esgyn, a thymestl yn eu canlyn, i ddifetha'r ddaear gyfan a'i thrigolion, ac i ollwng tymestl erchyll ar y mawrion a'r enwog, 41a hefyd dân a chenllysg a chleddyfau hedegog; a bydd y dyfroedd yn llifo, nes llenwi'r holl feysydd a'r holl afonydd â'u llifeiriant helaeth. 42Bwriant i lawr ddinasoedd a muriau, mynyddoedd a bryniau, coed y fforestydd a chnydau'r meysydd. 43Daliant i fynd yn eu blaen hyd at Fabilon, a'i llwyr ddinistrio hi. 44Pan ymgasglant yno, fe'i hamgylchant hi ac arllwys ar ei phen y dymestl a'i holl ddicter; bydd y llwch a'r mwg yn codi i'r nefoedd, a bydd pawb o'i hamgylch yn galaru am Fabilon. 45A chaethweision i'w dinistrwyr hi fydd unrhyw rai a adewir.
Tynged Asia
46A thithau Asia, a fu'n gyfrannog o brydferthwch Babilon a'i gogoniant hi, 47gwae di, y druan! Oherwydd yr wyt wedi ymdebygu iddi hi, gan wisgo dy ferched â phuteindra, i foddhau, ac i ymffrostio yn y cariadon a fu bob amser yn dy chwenychu di. 48Yr wyt wedi efelychu'r butain ffiaidd yn ei holl weithredoedd a'i hystrywiau. Am hynny y mae Duw yn dweud: 49“Anfonaf ddrygau arnat: gweddwdod a thlodi, newyn a chleddyf a haint, i ddifrodi dy gartrefi a dwyn trais a marwolaeth yn eu sgil. 50Bydd gogoniant dy nerth yn crino fel blodeuyn, pan gyfyd y gwres a anfonir arnat. 51Byddi'n wan a thlawd gan wialenodiau, wedi dy gystwyo â chlwyfau, yn anabl mwyach i dderbyn dy gariadon nerthol. 52A fyddwn i mor eiddgar yn dy erbyn,” medd yr Arglwydd, 53“oni bai i ti bob amser ladd fy etholedigion i, gan lawenhau a churo dwylo a gwawdio'n#15:53 Yn ôl darlleniad arall, a siarad yn. feddw uwchben eu cyrff? 54Ymbincia! 55Cei dâl putain yn dy boced, ac felly fe dderbynni dy wobr. 56Fel y gwnei di i'm hetholedigion i,” medd yr Arglwydd, “felly y gwna Duw i tithau, a'th fwrw i'r un drygau. 57Bydd dy blant farw o newyn; byddi dithau'n syrthio drwy'r cleddyf, sethrir dy ddinasoedd i'r llawr, a lleddir dy holl bobl ar faes y gâd. 58Trengi o newyn y bydd y rhai sydd yn y mynyddoedd, yn cnoi eu cnawd eu hunain ac yn yfed eu gwaed eu hunain, o eisiau bara a syched am ddŵr. 59Ti a fydd flaenaf mewn trueni, a daw drygau pellach i'th ran. 60Wrth i'r gorchfygwyr fynd heibio ar eu taith yn ôl wedi dymchweliad Babilon, chwalant dy ddinas lonydd, dinistriant dy randir helaeth, a rhoi diwedd ar dy gyfran o ogoniant. 61Byddant fel tân arnat, yn dy ddifetha fel sofl o'u blaen. 62Ysant di a'th ddinasoedd, dy dir a'th fynyddoedd, a llosgi'n ulw dy holl fforestydd a'th goed ffrwythlon. 63Dygant ymaith dy feibion yn gaethweision, ysbeilio dy holl eiddo, a rhoi diwedd ar ogoniant dy wedd.”

Dewis Presennol:

2 Esdras 15: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda