Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Esdras 14

14
1Y trydydd dydd yr oeddwn yn eistedd dan dderwen, 2a dyma lais yn dod allan o berth gyferbyn â mi, a dweud, “Esra, Esra!” Atebais innau, “Dyma fi, Arglwydd.” Codais ar fy nhraed, ac meddai ef wrthyf: 3“Fe'm datguddiais fy hun yn eglur yn y berth, a bûm yn siarad â Moses, pan oedd fy mhobl yn gaethweision yn yr Aifft; 4anfonais ef i arwain fy mhobl allan o'r Aifft, a dygais ef i fyny i Fynydd Sinai, a'i gadw yno gyda mi am ddyddiau lawer. 5Mynegais iddo lawer o bethau rhyfeddol, gan ddangos iddo gyfrinachau'r oesau a diwedd yr amseroedd. Rhoddais orchymyn iddo fel hyn: 6‘Gwna'r geiriau hyn yn hysbys, a chadw'r lleill yn gyfrinach.’ 7Ac yn awr dyma fy ngorchymyn i ti: 8cadw'n ddiogel yn dy galon yr arwyddion a ddangosais iti, y breuddwydion a gefaist, a'r dehongliadau a glywaist. 9Oherwydd fe'th ddygir di ymaith o blith dynion, ac o hynny ymlaen byddi'n aros gyda'm mab i a chyda rhai tebyg i ti, hyd ddiwedd yr amseroedd. 10Oherwydd y mae'r byd wedi colli ei ieuenctid, ac y mae'r amseroedd yn dechrau heneiddio. 11Y mae oes y byd wedi ei rhannu'n ddeuddeg rhan, ac eisoes aeth naw#14:11 Tebygol. Lladin, deg. o'r rhannau hynny heibio, a hanner y ddegfed ran; 12nid oes ond dwy ran ohoni'n aros, ynghyd â hanner arall y ddegfed ran. 13Yn awr, felly, gosod dy dŷ mewn trefn; rhybuddia dy bobl, rho gysur i'r rhai gostyngedig yn eu mysg, ac ymwâd bellach â'r bywyd llygradwy. 14Bwrw ymaith oddi wrthyt feddyliau meidrol, a thafl i ffwrdd oddi wrthyt dy feichiau dynol; 15yn awr diosg oddi amdanat dy natur wan, gosod o'r neilltu y pryderon sy'n pwyso drymaf arnat, a brysia i ffoi rhag yr amseroedd hyn. 16Oherwydd er mor fawr y drygau a welaist eisoes, y mae rhai gwaeth i ddigwydd ar ôl hyn. 17Oherwydd po fwyaf y bydd henaint yn gwanychu'r byd, amlaf y drygau a ddaw ar ei drigolion. 18Bydd gwirionedd yn cilio draw, ac anwiredd yn agosáu. Oherwydd y mae'r eryr a welaist yn dy freuddwyd eisoes yn dod ar frys.”
Esra'n Ysgrifennu
19Atebais innau fel hyn: “A gaf fi siarad#14:19 Felly Fersiynau eraill. Lladin yn ddiffygiol. yn dy wyddfod, Arglwydd? Dyma fi ar fin ymadael, yn unol â'th orchymyn; fe geryddaf fi y bobl sydd yn awr yn fyw, ond pwy sydd i rybuddio'r rhai a enir ar ôl hyn? 20Y mae'r byd yn gorwedd mewn tywyllwch, ac y mae ei drigolion heb oleuni. 21Oherwydd y mae dy gyfraith di wedi ei llosgi, ac felly ni ŵyr neb am y gweithredoedd a gyflawnwyd gennyt neu sydd eto i'w cyflawni. 22Felly, os wyf yn gymeradwy yn dy olwg, dyro ysbryd sanctaidd o'm mewn, ac ysgrifennaf holl hanes y byd o'r dechreuad, a'r pethau oedd yn ysgrifenedig yn dy gyfraith di; felly bydd yn bosibl i ddynion ddarganfod y llwybr, a chael byw, os dymunant hynny, yn yr amseroedd diwethaf.”
23Atebodd ef fi fel hyn: “Dos, galw'r bobl ynghyd, a dywed wrthynt nad ydynt i chwilio amdanat am ddeugain diwrnod. 24Ond darpara di lawer o dabledi ysgrifennu, a chymer gyda thi Sarea, Dabria, Selemia, Ethanus ac Asiel—pump a hyfforddwyd i ysgrifennu'n gyflym. 25Wedyn tyrd yma, a chyneuaf yn dy feddwl lusern deall, ac ni ddiffoddir hi nes cwblhau'r cyfan yr wyt i'w ysgrifennu. 26A phan fyddi wedi gorffen, gelli wneud rhai pethau'n hysbys i bawb, ond cyflwyno eraill yn gyfrinachol i'r doethion. Y pryd hwn yfory cei ddechrau ysgrifennu.”
27Euthum allan, fel y gorchmynnodd ef imi, a galw'r holl bobl ynghyd, a dweud: 28“Clyw, Israel, y geiriau hyn. 29Estroniaid yn byw yn yr Aifft oedd ein hynafiaid ni yn wreiddiol. Gwaredwyd hwy oddi yno, 30a derbyniasant gyfraith bywyd. Ond ni chadwasant hi, ac yr ydych chwi hefyd ar eu hôl wedi troseddu. 31Yna rhoddwyd i chwi wlad yn etifeddiaeth, yn nhiriogaeth Seion; ond pechu a wnaethoch chwi a'ch hynafiaid, heb gadw'r ffyrdd a bennodd y Goruchaf ichwi. 32Am ei fod ef yn farnwr cyfiawn, ymhen amser fe dynnodd yn ôl oddi wrthych yr hyn yr oedd wedi ei roi. 33Ac yn awr yr ydych chwi yma, yn alltud, ac y mae'ch tylwyth ymhellach i ffwrdd na chwi#14:33 Felly rhai Fersiynau. Lladin, yn eich plith chwi. 34Felly, os cadwch reolaeth ar eich deall a disgyblu eich meddwl, fe'ch cedwir yn ddiogel yn ystod eich bywyd, ac fe dderbyniwch drugaredd ar ôl marw. 35Oherwydd bydd y farn yn dilyn marwolaeth; byddwn ninnau'n dod yn fyw drachefn, ac yna daw enwau'r rhai cyfiawn yn eglur, a gweithredoedd yr annuwiol yn amlwg. 36Ond peidied neb â dod ataf yn awr, na'm ceisio am y deugain diwrnod nesaf.”
37Yna cymerais y pum dyn, fel y gorchmynnwyd imi, ac aethom allan i'r maes ac aros yno. 38A'r dydd canlynol, dyma lais yn galw arnaf a dweud, “Esra, agor dy enau ac yf yr hyn yr wyf yn ei roi i ti i'w yfed.” 39Felly agorais fy ngenau, a dyma estyn imi gwpan yn llawn o rywbeth tebyg i ddŵr, ond bod ei liw fel lliw tân. 40Cymerais ef ac yfed, a chyn gynted ag y gwneuthum hynny dyma fy meddwl yn dylifo â dealltwriaeth, a doethineb yn mynd ar gynnydd o'm mewn; oherwydd ni chollodd cyneddfau fy ysbryd afael ar y cof. 41Felly agorwyd fy ngenau, ac nis caewyd wedyn. 42Hefyd rhoddodd y Goruchaf ddeall i'r pum dyn, ac ysgrifenasant hwy yn eu trefn y pethau a ddywedwyd, gan ddefnyddio llythrennau heb fod yn wybyddus iddynt; yno y buont am y deugain diwrnod, yn ysgrifennu trwy'r dydd, 43ac yn bwyta bara gyda'r nos. A minnau, yr oeddwn yn llefaru y dydd, ac nid oeddwn yn ddistaw y nos. 44Yn y deugain diwrnod fe ysgrifennwyd naw deg a phedwar#14:44 Felly Fersiynau eraill. Lladin, naw cant a phedwar. o lyfrau. 45A phan gwblhawyd y deugain diwrnod, siaradodd y Goruchaf â mi fel hyn: “Gwna'n hysbys y llyfrau cyntaf a ysgrifennaist, a gad i'r rhai teilwng a'r annheilwng fel ei gilydd eu darllen, 46ond cadw'n ôl y saith deg olaf, i'w cyflwyno i'r doethion ymhlith dy bobl. 47Oherwydd ynddynt hwy y mae ffrwd deall, ffynnon doethineb, ac afon gwybodaeth.” 48A gwneuthum felly.

Dewis Presennol:

2 Esdras 14: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda