Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2 Esdras 13

13
1Ymhen y saith diwrnod cefais freuddwyd liw nos, 2a gweld gwynt yn codi o'r môr ac yn cynhyrfu ei holl donnau ef. 3Edrychais, a dyma'r gwynt hwnnw yn peri bod rhywbeth tebyg i ddyn yn dod i fyny o eigion y môr, a gwelais y#13:3 gwynt hwnnw… gwelais y. Felly Syrieg. Lladin yn ddiffygiol. dyn hwn yn ehedeg#13:3 Felly Fersiynau eraill. Lladin, yn mynd yn gryf. gyda chymylau'r nef. Ble bynnag y trôi ef ei wyneb i edrych, crynai popeth y syllai arno; 4a phle bynnag yr â'i llais allan o'i enau ef, toddai#13:4 Felly Syrieg. Lladin, llosgai. pob un a'i clywai, fel cŵyr yn toddi ar gyffyrddiad tân.
5Yna gwelais lu aneirif o ddynion yn ymgynnull, o bedwar gwynt y nefoedd, i ryfela yn erbyn y dyn oedd wedi codi o'r môr. 6Ac wrth imi edrych, dyma yntau yn naddu iddo'i hun fynydd mawr, ac yn hedfan i fyny arno. 7Ond pan geisiais weld y man neu'r lle y naddwyd y mynydd ohono, ni allwn. 8Yna gwelais fod ofn mawr ar bawb oedd wedi ymgynnull i geisio'i drechu ef; er hynny, yr oeddent yn dal yn eu beiddgarwch i ymladd yn ei erbyn. 9Pan welodd ef y llu yn dod i ymosod arno, ni wnaeth gymaint â chodi ei law, ac ni ddaliai na gwaywffon nac unrhyw arf rhyfel. Yn wir, yr unig beth a welais 10oedd y modd y tywalltai rywbeth tebyg i lifeiriant o dân o'i enau, ac anadl fflamllyd o'i wefusau; ac o'i dafod tywalltai storm o wreichion. Cymysgwyd y rhain i gyd â'i gilydd—y llifeiriant tân, yr anadl fflamllyd, a'r storm fawr— 11a syrthiodd y crynswth hwnnw ar ben y llu ymosodwyr oedd yn barod i ymladd, a'u llosgi i gyd. Yn sydyn, nid oedd dim i'w weld o'r llu dirifedi ond lludw llychlyd ac arogl mwg. Edrychais, ac fe'm syfrdanwyd. 12Wedyn gwelais y dyn hwnnw yn dod i lawr o'r mynydd ac yn galw ato'i hun dyrfa arall, un heddychlon. 13Ato daeth llawer o bobl, a'u gwedd yn amrywio: rhai yn llawen, eraill yn drist; rhai yn wir mewn rhwymau, ac eraill yn dwyn ato offrymau o blith y rhai a aberthid.
Y Dehongliad
14Dihunais innau mewn dychryn mawr, a gweddïo ar y Goruchaf fel hyn: “O'r dechrau yr wyt wedi dangos y rhyfeddodau hyn i'th was, a'm cyfrif yn un a deilyngai dderbyn ohonot ei weddi. 15Yn awr dangos i mi beth yw ystyr y freuddwyd hon hefyd. 16Oherwydd, yn ôl yr hyn yr wyf fi'n ei ddeall, gwae'r rhai a adewir yn y dyddiau hynny, ond gymaint mwy y gwae i'r rhai ni adewir! 17Oblegid bydd y rhai ni adewir yn drist, 18am eu bod yn gwybod beth sydd ynghadw yn y dyddiau diwethaf, a hwythau'n ei golli. 19Ond gwae hefyd y rhai a adewir, oherwydd byddant hwy'n gweld peryglon mawr a chyfyngderau lawer, fel y mae'r breuddwydion hyn yn dangos. 20Eto i gyd, gwell dioddef y perygl a chyrraedd y pethau hyn na diflannu fel cwmwl o'r byd, heb weld yr hyn a ddigwydd yn y diwedd.”
21Atebodd fi fel hyn: “Fe ddehonglaf y weledigaeth iti, ac at hynny egluraf ynglŷn â'r pethau y buost yn siarad amdanynt. 22Cyfeiriaist at y rhai a adewir, a dyma'r dehongliad: 23yr un a fydd yn achos perygl yn yr amser hwnnw, ef ei hun hefyd fydd yn gwarchod yn eu perygl y rhai y mae ganddynt weithredoedd a ffydd yn yr Hollalluog. 24Felly gwybydd mai mwy yw gwynfyd y rhai a adewir na'r eiddo y rhai a fu farw. 25Dyma ddehongliad y weledigaeth: y dyn a welaist yn dod i fyny o eigion y môr 26yw'r un y mae'r Goruchaf yn ei gadw'n barod drwy oesoedd lawer; bydd ef ei hun yn gwaredu ei greadigaeth ac yn pennu tynged y rhai a adewir. 27Ynglŷn â'r anadl a'r tân a'r storm a welaist yn dod allan o'i enau, 28ac yntau heb na gwaywffon nac arf rhyfel yn difetha ymosodiad y llu a ddaeth i ymladd yn ei erbyn, dyma'r dehongliad: 29y mae'r dyddiau'n wir yn dod pan fydd y Goruchaf yn dechrau gwaredu'r rhai sydd ar y ddaear. 30Daw dryswch meddwl ar drigolion y ddaear; 31byddant yn cynllunio rhyfel yn erbyn ei gilydd, dinas yn erbyn dinas, ardal yn erbyn ardal, cenedl yn erbyn cenedl, teyrnas yn erbyn teyrnas. 32A phan ddaw hyn i fod, a phan ddigwydd yr arwyddion a ddangosais iti o'r blaen, yna datguddir fy mab, sef y dyn a welaist ti yn codi o'r môr. 33Yna, pan glyw yr holl genhedloedd ei lais ef, bydd pob un ohonynt yn gadael ei gwlad ei hun ac yn rhoi'r gorau i ryfela yn erbyn ei gilydd, 34ac fe'u cesglir ynghyd yn un llu aneirif, fel y gwelaist, â'u bryd ar ddod a'i drechu ef. 35Ond bydd ef yn sefyll ar ben Mynydd Seion; 36a daw Seion yn amlwg i bawb, wedi ei chynllunio a'i hadeiladu, yn cyfateb i'r modd y gwelaist y mynydd yn cael ei naddu heb gymorth llaw dyn. 37Bydd ef, fy mab, yn ceryddu am eu hannuwioldeb y cenhedloedd a ddaw yno; y mae hynny'n cyfateb i'r storm. Bydd hefyd yn edliw iddynt yn eu hwynebau eu bwriadau drwg a'r poenedigaethau y maent i'w dioddef; 38hynny sy'n cyfateb i'r fflam. Ac yn ddiymdrech fe'u difetha hwy drwy'r#13:38 Felly Syrieg. Lladin, a'r. gyfraith; hynny sy'n cyfateb i'r tân. 39Ynglŷn â'th weledigaeth ohono'n casglu tyrfa arall, un heddychlon, ato'i hun, 40dyna'r deg llwyth a gaethgludwyd allan o'u gwlad yn nyddiau'r Brenin Hosea#13:40 Felly rhai llawysgrifau Lladin, ond y mwyafrif, Joseia. Dygodd Salmaneser brenin Asyria ef yn gaeth, ac alltudio'r llwythau y tu hwnt i'r Afon, a'u dwyn i wlad arall. 41Ond gwnaethant hwy y penderfyniad hwn rhyngddynt a'i gilydd, sef gadael y llu cenhedloedd, a theithio ymlaen i wlad fwy pellennig, lle nad oedd yr hil ddynol erioed wedi trigo, 42ac yno, o'r diwedd, gadw gofynion eu cyfraith nad oeddent wedi eu parchu yn eu gwlad eu hunain. 43Wrth iddynt groesi ar draws mynedfeydd cyfyng Afon Ewffrates, 44rhoddodd y Goruchaf iddynt arwyddion, gan atal ffrydiau'r afon hyd nes iddynt fynd trosodd. 45Yr oedd eu taith drwy'r wlad honno, a elwir Arsareth, yn un hir, yn para blwyddyn a hanner. 46Oddi ar hynny y maent wedi byw yno, hyd yr amser diwethaf hwn. Ac yn awr y maent ar fin dychwelyd, 47ac unwaith eto bydd y Goruchaf yn atal ffrydiau'r afon iddynt gael croesi. 48Dyna'r rheswm pam y gwelaist y dyrfa wedi ei chynnull mewn heddwch. Gyda hwy hefyd y mae'r rhai a adawyd yn weddill o'th bobl di, y rhai a geir o fewn fy nherfynau sanctaidd i. 49Felly, pan fydd ef yn dechrau difetha'r llu cenhedloedd a gynullwyd, bydd yn gwarchod dros ei bobl a adawyd yn weddill, 50a daw iddynt lawer o ryfeddodau mawr.”
51Yna meddwn innau: “Arglwydd Iôr, eglura i mi pam y gwelais y dyn hwnnw yn codi o eigion y môr”. Atebodd ef fi: 52“Fel y mae'n amhosibl i unrhyw un chwilio dyfnderoedd y môr a gwybod beth sydd yno, felly hefyd ni all neb ar y ddaear weld fy mab na'r rhai sydd gydag ef, hyd oni ddaw ei ddydd. 53Dyna felly ddehongliad y freuddwyd a gefaist. Ti'n unig a oleuwyd yn y pethau hyn, 54a hynny am dy fod wedi gadael dy ffyrdd dy hun ac wedi ymroi i'm rhai i, a chwilio fy nghyfraith yn fanwl. 55Cyfeiriaist dy fywyd i ffordd doethineb, a gelwaist ddeall yn fam i ti. 56Dangosais hyn oll i ti, am fod i ti wobr gyda'r Goruchaf; ymhen tri diwrnod eto bydd gennyf ragor i'w ddweud wrthyt, a mynegaf iti bethau pwysfawr a rhyfeddol.”
Y Seithfed Weledigaeth y Llais o'r Berth
57Felly cychwynnais ar draws y maes, gan ogoneddu a chlodfori'r Goruchaf yn fawr am y rhyfeddodau a wnaeth ef yn eu pryd, 58ac am ei fod yn llywodraethu'r amseroedd a phopeth sy'n digwydd ynddynt. Ac yno yr arhosais am dridiau.

Dewis Presennol:

2 Esdras 13: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda