Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Pedr 5

5
Bugeiliwch Braidd Duw
1Yr wyf yn apelio, yn awr, at yr henuriaid yn eich plith. Yr wyf finnau'n gyd-henuriad â chwi, ac yn dyst o ddioddefiadau Crist, ac yn un sydd hefyd yn gyfrannog o'r gogoniant sydd ar gael ei ddatguddio. 2Bugeiliwch braidd Duw sydd yn eich gofal, nid dan orfod, ond o'ch gwirfodd yn ôl ffordd Duw; nid er mwyn elw anonest, ond o eiddgarwch, 3nid fel rhai sy'n tra-arglwyddiaethu ar y rhai a osodwyd dan eu gofal, ond gan fod yn esiamplau i'r praidd. 4A phan ymddengys y Pen Bugail, fe gewch eich coroni â thorch gogoniant, nad yw byth yn gwywo.
5Yn yr un modd, chwi wŷr ifainc, ymostyngwch i'r henuriaid#5:5 Neu, i'r hynafgwyr.. A phawb ohonoch, gwisgwch amdanoch ostyngeiddrwydd yng ngwasanaeth eich gilydd, oherwydd, fel y dywed yr Ysgrythur:
“Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion,
ond i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras.”
6Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw'r amser. 7Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.
8Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu. 9Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi'r un math o ddioddefiadau. 10Ond wedi ichwi ddioddef am ychydig, bydd Duw pob gras, yr hwn a'ch galwodd i'w dragwyddol ogoniant yng Nghrist Iesu, yn eich gwneud yn gymwys, yn gadarn, yn gryf ac yn ddiysgog. 11Iddo ef y perthyn y gallu am byth. Amen.
Cyfarchion Terfynol
12Yr wyf yn ysgrifennu'r ychydig hyn trwy law Silfanus, brawd y gellir, yn ôl fy nghyfrif i, ymddiried ynddo. Fy mwriad yw eich calonogi, a thystio mai dyma wir ras Duw. Safwch yn ddisigl ynddo.
13Y mae'r hon ym Mabilon sydd yn gydetholedig â chwi yn eich cyfarch, a Marc, fy mab. 14Cyfarchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll sydd yng Nghrist!

Dewis Presennol:

1 Pedr 5: BCNDA

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd