1 Pedr 4
4
Gweinyddwyr Da ar Ras Duw
1Am hynny, gan i Grist ddioddef yn y cnawd, cymerwch chwithau yr un meddwl yn arfogaeth i chwi—oherwydd y mae'r sawl a ddioddefodd yn y cnawd wedi darfod â phechod— 2fel na fydd ichwi mwyach dreulio gweddill eich amser yn y cnawd yn ôl chwantau dynol, ond yn ôl ewyllys Duw. 3Oherwydd y mae'r amser a aeth heibio yn hen ddigon i fod wedi gwneud y pethau y mae bryd y Cenhedloedd arnynt, gan rodio mewn trythyllwch, chwantau, meddwdod, cyfeddach, diota ac eilunaddoliaeth ffiaidd. 4Yn hyn o beth, y mae pobl yn ei gweld yn rhyfedd nad ydych chwi'n dal i ruthro gyda hwy i'r un llifeiriant o afradlonedd; ac y maent yn eich cablu. 5Bydd raid iddynt roi cyfrif i'r hwn sydd yn barod i farnu'r byw a'r meirw. 6I'r diben hwn y pregethwyd yr Efengyl i'r meirw hefyd; er mwyn iddynt—er cael eu barnu yn y cnawd fel y bernir pawb—fyw yn yr ysbryd fel y mae Duw yn byw.
7Y mae diwedd pob peth ar ein gwarthaf. Am hynny, ymbwyllwch ac ymddisgyblwch i weddïo. 8O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd, oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau. 9Byddwch letygar i'ch gilydd heb rwgnach. 10Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw. 11Pwy bynnag sy'n llefaru, llefared fel un sydd wedi derbyn oraclau Duw; os yw'n gwasanaethu, gwasanaethed fel un sydd wedi derbyn o'r nerth y mae Duw yn ei gyfrannu. Yr amcan ym mhob dim yw gogoneddu Duw trwy Iesu Grist. Iddo ef y perthyn y gogoniant a'r gallu byth bythoedd. Amen.
Dioddef fel Cristion
12Gyfeillion annwyl, peidiwch â rhyfeddu at y prawf tanllyd sydd ar waith yn eich plith, fel petai rhywbeth rhyfedd yn digwydd ichwi. 13Yn hytrach, yn ôl maint eich cyfran yn nioddefiadau Crist llawenhewch, er mwyn ichwi allu llawenhau hefyd, a gorfoleddu, pan ddatguddir ei ogoniant ef. 14Os gwaradwyddir chwi oherwydd enw Crist, gwyn eich byd, o achos y mae Ysbryd y gogoniant, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch. 15Ni ddylai neb ohonoch ddioddef fel llofrudd neu leidr neu ddrwgweithredwr, neu fel dyn busneslyd#4:15 Neu, fel chwyldröwr.. 16Ond os bydd i rywun ddioddef fel Cristion, ni ddylai gywilyddio, ond gogoneddu Duw trwy'r enw hwn. 17Oherwydd y mae'n bryd i'r farn ddechrau, a dechrau gyda theulu Duw. Ac os gyda ni yn gyntaf, beth fydd diwedd y rhai sy'n anufudd i Efengyl Duw? 18Yng ngeiriau'r Ysgrythur:
“Ac os o'r braidd yr achubir y cyfiawn,
ple bydd yr annuwiol a'r pechadur yn sefyll?”
19Am hynny, bydded i'r rhai sy'n dioddef yn ôl ewyllys Duw ymddiried eu heneidiau i'r Creawdwr ffyddlon, gan wneud daioni.
Dewis Presennol:
1 Pedr 4: BCNDA
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004