Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 59

59
SALM LIX
Eripe me.
Dafydd yn ofni Saul, yn dangos ei ddiniweidrwydd ei hun, a chreulondeb ei elynion: yn gweddio yn erbyn pechaduriaid maleisus, ac yn moli Duw.
1Fy Nuw gwareda fi rhac brâd
a rhac twyll fwriad gelyn,
Derbyn di drosof rhac y rhai
a godai yn fy erbyn.
2Ac ymddiffyn fi bybyr
oddiwrth weithredwyr camwedd,
Achub fyfi rhac câs y byd,
a rhac gwyr gwaedlyd hygledd.
3Ac wele, maent hwy i’m cynllwyn,
amranent ddwyn fy mywyd,
Nid ar fy mai yr haeddais hyn,
ond tynder gelyn gwaedlyd.
4Duw rhedent hwy yn barod iawn,
a dim ni wnawn iw herbyn.
Edrych dithau, fy Arglwydd rhed,
a thyred i’m hymddiffyn.
5Ti Dduw y llu, Duw Israel,
o deffro gwael enwiredd,
I’r cenhedloedd na âd di’n rhâd,
lle y gwnant drwy frâd eu trawsedd.
6Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyr,
o’mdroi ar wyr o bobparth:
A thrwy y ddinas clywch eu swn,
un wedd a’r cwn yn cyfarth.
7Wele maent a thafodau rhydd,
awch cledd a fydd iw genau,
Pwy meddant hwy all glywed hyn?
ac a wna i’n herbyn ninnau.
8Ond tydi fy Arglwydd a’m Duw,
a’i gwel, ai clyw, a’i gwatwar:
Am ben eu gwaith y chwerddi di
y cenhedlaethi twyllgar.
9Ti a attebi ei nerth ef,
a’th law gref a’m hamddiffyn
10Duw a’m rhagflaena innau chwip,
caf weled trip i’m gelyn.
11Na lâdd hwynt rhag i’m pobloedd i
anghofi dy weithredoedd:
Gwasgar, gostwng hwy yn dy nerth
Duw darian prydferth lluoedd.
12Am bechod eu tafodau hwy,
a’i geiriau, mwyfwy balchedd,
Telir iddynt ni ront air teg
ond celwydd, rheg, a choegedd.
13Duw difa, difa hwynt i’th lid,
a byth na fid un mwyach,
Gwybyddant mai Duw Jago sydd
drwy’r byd yn llywydd hyttrach.
14Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyr
o’mdroi yn llwyr o bobparth:
A thrwy y ddinas clywch ei swn,
un wedd a chwn yn cyfarth.
15I gael ymborth crwydro a wnant,
ac oni chânt eu digon,
Nes cael byddant ar hyd y nos
yn aros dan ymryson.
16Minnau a ganaf o’r nerth tau,
a’th nawdd yn forau molaf:
Nerth ym’ a nawdd buost (o Ner)
pan fu gorthrymder arnaf.
17I ti canaf, o Dduw fy nerth,
a’m hymadferth rymusol,
Sef tydi yw fy Nuw, fy Naf,
fy nhwr fy noddfa rasol.

Dewis Presennol:

Y Salmau 59: SC

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda