Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 41

41
SALM XLI
Beatus qui intelligit.
Bendithio y rhai trugarog wrth eraill. Achwyn rhag anffyddlon gyfeillion. Diolchgarwch.
1Gwyn ei fyd yr ystyriol frawd,
a wnel a’r tlawd syberwyd.
Yr Arglwydd ystyriol o’r nef
a’i ceidw ef rhag drygfyd.
2Duw a’i ceidw, a byw a fydd
yn ddedwydd yn ddaiarol:
O na ddyro efo yn rhodd
wrth fodd y rhai gelynol.
3Yn ei wely pan fo yn glaf
rhydd y Goruchaf iechyd:
A Duw a gweiria oddi fry
ei wely yn ei glefyd.
4Dywedais innau yna’n rhwydd,
dod f’Arglwydd dy drugaredd,
Iachâ di’r dolur sy dan fais,
lle y pechais mewn anwiredd.
5Traethu y gwaethaf a wnâi’ nghâs
amdanaf, atcas accen:
Pa bryd y bydd marw y gwan,
a’i enw o dan yr wybren?
6Os daw i’m hedrych, dywaid ffug,
dan gasglu crug iw galon,
Ac a’i traetha pan el i ffwrdd
i gyfwrdd a’i gyfeillion.
7Fy holl gaseion doent ynghyd,
i fradu ’i gyd yn f’erbyn,
Ac i ddychmygu i mi ddrwg,
a minneu’n ddiddrwg iddynt.
8Yna dywedent hwy yn rhwydd,
tywalldwyd aflwydd arno,
Mae ef yn gorwedd yn ei nyth,
ni chyfyd byth oddiyno.
9F’anwyl gyfaill rhwym y’m wrth gred,
fy ’mddiried a’m dewisddyn:
A fu yn bwyta’ mara erioed,
a godai’i draed yn f’erbyn.
10Eithyr dy hunan cyfod fi,
o’th ddaioni Duw o’r nef:
Felly y gallaf fi ar hynt
gael talu iddynt adref.
11Da y gwn fy mod i wrth dy fodd,
wrth hyn, na chafodd casddyn:
A gwna na chaiff un gelyn glas
ddim urddas yn fy erbyn.
12Felly y gwn am danaf fi,
di a’m cynheli’n berffaith:
Gan fy rhoi i byth gar dy fron
o fysg y dynion diffaith.
13I Dduw Israel boed yn flith
y fendith, (Ior goruchaf)
Yn oes oesoedd: a thrwy air llen:
Amen: Amen a draethaf.

Dewis Presennol:

Y Salmau 41: SC

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda