Y Salmau 40
40
SALM XL
Expectans expectaui.
Diolchgarwch i Dduw am ei ddaioni i ddynion: addaw ymroi i wasnaethu Duw, ar modd i hynny: gwedi diolch y mae yn achwyn rhag ei elynion, ac yn mynd at Dduw am gymorth.
1Bum yn dyfal ddisgwyl fy Ner,
ef o’r uchelder clybu,
Clustymwrandawodd ef fy llais
pan lefais ar i fynu.
2Cododd fyfi or pydew blin,
a’r pridd tra gerwin tomlyd:
A rhoes ar graig fy nhroed i wau,
a threfn fy nghamrau hefyd.
3A newydd gerdd i’m genau rhoes,
clod iddo troes yn hylwydd.
4Pawb ofnant pan y gwelant hyn,
a chredan yn yr Arglwydd.
5Pob gwr yn ddiau dedwydd yw
a rotho ar Dduw ei helynt:
A’r beilch, a’r ffeils a’r chwedlan tro
nid edrych efo arnynt.
6Aml (o Dduw) yw y gwrthiau tau,
fel dy feddyliau ynny:
A heb un dyn yn dysgu i ti,
nac yn blaenori hynny.
7Y rhai pe y ceisiwn i drwy gred,
eu rhoi ar led, a’i canu,
Mwy amlach ydynt nag y gall
un dyn heb pall eu traethu.
8Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth,
na chwaith un aberth cennyf:
Er hyn fy nghlustiau i mewn pryd,
hwy a egoryd ymy.
9Hyn pan wrthodaist dwedais i,
Duw wele fi yn dyfod
10Megis o honof mae gwir pur
yn dy ysgrythur hynod.
11Y rhyngwn i dy fodd yn llawn,
(o Dduw) rwy’ ’n fodlawn ddigon,
Dy ewyllys di a’th lân ddeddf
sy’n greddf yn nautu’r galon.
12Mi a bregethais dy air cu
ynghanol llu mawr anian.
Ac ni thawaf (fy’ Arglwydd gwyn)
ti wyddost hyn dy hunan.
13Dy iownder, iechyd, a’th air gwir
ni bum chwaith hir i’w celu,
Na’th drugaredd, na’th roddion da
rhag un gynlleidfa meithlu.
14Dithau (o Dduw) rhagof na chel
dy dawel drugareddau,
Dy nawdd a’th wir gosod ar lled,
bont byth i’m gwared innau.
15Dagrau o’m hamgylch fydd uwch rhif,
a throso’n llif mae pechod:
Amlach ydynt nâ’m gwallt i’m brig,
a’m calon ddig sy’n darfod.
16Tyred (fy Arglwydd) helpa’n rhodd,
a rhynged bodd yt’ hynny:
Bryssia i’m gwared, na thrig yn hwy,
a bydd gynhorthwy ymy.
17A chyd wradwydder hwynt ar gais
a fyn drwy drais fy nifa:
A throer iw hol y rhai y sy
yn chwennych ymy ddirdra.
18Bont hwy annedd-wâg yn lle tâl
y rhai a dyfal dafod
Er gwradwydd ym’ a ddwedant hyn,
ffei, ffei, ar destyn dannod.
19Y rhai a’th geisiant di bob pryd
bont lawen hyfryd hylwydd:
A dweded a’th gâr di (Dduw ner)
mawryger enw’r Arglwydd.
20Cofia (o Dduw) fy mod yn wan,
ac yn druan, a dyred,
(O Dduw fy nerth) na thrig yn hir,
dyrd rhag y dir i’m gwared.
Dewis Presennol:
Y Salmau 40: SC
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2017
© British and Foreign Bible Society 2017