1
Datguddiad 19:7
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Llawenhawn a gorfoleddwn, a rhown iddo'r gogoniant, oherwydd daeth dydd priodas yr Oen, ac ymbaratôdd ei briodferch ef.
Cymharu
Archwiliwch Datguddiad 19:7
2
Datguddiad 19:16
Yn ysgrifenedig ar ei fantell ac ar ei glun y mae enw: “Brenin brenhinoedd, ac Arglwydd arglwyddi.”
Archwiliwch Datguddiad 19:16
3
Datguddiad 19:11
Gwelais y nef wedi ei hagor, ac wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir, oherwydd mewn cyfiawnder y mae ef yn barnu ac yn rhyfela.
Archwiliwch Datguddiad 19:11
4
Datguddiad 19:12-13
Yr oedd ei lygaid fel fflam dân, ac ar ei ben yr oedd diademau lawer. Yn ysgrifenedig arno yr oedd enw na wyddai neb ond ef ei hun. Yr oedd y fantell amdano wedi ei throchi mewn gwaed, ac fe'i galwyd wrth yr enw Gair Duw.
Archwiliwch Datguddiad 19:12-13
5
Datguddiad 19:15
O'i enau yr oedd cleddyf llym yn dod allan, iddo daro'r cenhedloedd ag ef; a bydd ef yn eu llywodraethu â gwialen haearn, ac yn sathru gwinwryf llid digofaint Duw, yr Hollalluog.
Archwiliwch Datguddiad 19:15
6
Datguddiad 19:20
Daliwyd y bwystfil, ac ynghyd ag ef y gau broffwyd oedd wedi gwneud arwyddion gwyrthiol o'i flaen i dwyllo'r rhai oedd wedi derbyn nod y bwystfil ac addoli ei ddelw ef. Bwriwyd y ddau yn fyw i'r llyn tân oedd yn llosgi â brwmstan.
Archwiliwch Datguddiad 19:20
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos