Datguddiad 19:20
Datguddiad 19:20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond daliwyd yr anghenfil, a hefyd y proffwyd ffug oedd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol ar ei ran. Gyda’i wyrthiau roedd wedi llwyddo i dwyllo y bobl hynny oedd wedi’u marcio gyda marc yr anghenfil ac wedi addoli ei ddelw. Cafodd yr anghenfil a’r proffwyd ffug eu taflu yn fyw i’r llyn tân sy’n llosgi brwmstan.
Datguddiad 19:20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daliwyd y bwystfil, ac ynghyd ag ef y gau broffwyd oedd wedi gwneud arwyddion gwyrthiol o'i flaen i dwyllo'r rhai oedd wedi derbyn nod y bwystfil ac addoli ei ddelw ef. Bwriwyd y ddau yn fyw i'r llyn tân oedd yn llosgi â brwmstan.
Datguddiad 19:20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A daliwyd y bwystfil, a chydag ef y gau broffwyd, yr hwn a wnaeth wyrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nod y bwystfil, a’r rhai a addolasent ei ddelw ef. Yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan.