“Os ŷch chi in in garu i biddwch chi'n cadw in orchminion i; a gofina i i'r Tad a bydd e'n rhoi Un arall i'ch helpu chi, i fod 'da chi am byth, Isbryd i gwirionedd, seno'r byd in galler i dderbyn e achos seno fe'n galler i weld a seno'n i nabod e. Ŷch chi'n i nabod e achos mae e'n aros 'da chi a mae e indo chi.
“Na i ddim ich gadel chi ar ich pene'ch unen; dw i'n dod atoch chi. O fon hir fydd i byd ddim in ing ngweld i, ond biddwch chi in in weld i. Achos bo fi'n fyw biddwch chi'n fyw 'fyd. I dwarnod 'ny biddwch chi'n gwbod bo fi in in Dad, ich bo chi inda i a bod fi indo chi. Ma unrhiw un sy'n gwbod in orchminion i a'n u cadw nhw in in garu i; a ma unrhiw un sy in in garu i in câl i garu 'da'r Tad, a bidda i'n u caru nhwy a'n dangos in hunan iddyn nhwy.” Gwedo Jwdas (ddim Iscariot, ond y llall) wrtho fe, “Shwt ma i Arglwidd bo ti'n mind i ddangos di unan i ni, ond ddim i'r byd?” Atebo Iesu fe, “Os ma unrhiw un in in garu i biddan nhwy in cadw in air i, a bydd in Dad in u caru nhwy, a biddwn ni'n dod atyn nhwy a neud in cetre da nhwy. Seno'r rhei senyn nhwy in ing ngaru i in cadw in eire i; a ddim ing ngair i ŷch chi'n i gliwed ond gair i Tad sy wedi'n hala i.
Dw i wedi gweud i pethe hyn wrthoch chi a fi 'da chi o hyd; ond bydd i'r Un sy'n dod i helpu, ir Isbryd Glân ma'r Tad in mynd i hala in in enw i, in disgu popeth i chi a'ch atgoffa chi amdana i. Wrth fynd bant dw i'n gadel heddwch 'da chi — in heddwch in unan, ddim fel ma'r byd in i roi. Peidwch gadel i'ch calon ofidio; peidwch câl ofon. Cliwoch chi fi'n gweud, 'Dw i'n mynd bant, a bidda'n dod nôl atoch chi.’ Os bisech chi in in garu i bisech chi wedi bod wrth ich bodd bo fi'n mynd nôl at i Tad, achos ma'r Tad in fwy na fi. Hyd 'n ôd nawr dw i wedi gweu 'tho chi cyn iddo ddigwydd, fel ich bo chi'n credu pan ddigwiddith e. Bidda ddim in sharad lot mwy 'da chi, achos ma'r un sy'n rhedeg i byd 'ma in dod. Ond sdag e ddim comands drosta i; ma'r cifan in digwydd fel bo'r byd in gwbod bo fi in caru'r Tad a bo fi'n neud fel ma Tad wedi gofyn ifi neud. Codwch, gadwch inni fynd o fan 'yn.