Gwedo Tomos wrtho fe, “Arglwidd, senon ni'n gwmbod ble wit ti'n mynd; shwt wedyn allwn i wbod i ffordd?” Gwedo Iesu wrtho, “Fi yw'r ffordd a'r gwirionedd a'r bowid. Sneb in dod at i Tad ond trwidda i. Os ŷch chi in in nabod, biddwch chi in in nabod in Dad i 'fyd. O nawr mlân ŷch chi in i nabod e a wedi'i weld e.” Gwedo Philip wrtho fe, “Arglwidd, dangos i Tad i ni, a bidd 'na'n ddigon i ni.” Gwedo Iesu wrtho, “A wdw i wedi bo 'da chi'r holl amser 'ma a wedyn weth senoch chi in in nabod i, Philip? Ma unrhyw in sy wedi ing ngweld i wedi gweld i Tad. Pan ŷch chi'n gweud, 'Dangos i Tad i ni'? Senoch chi'n credu bo fi in i Tad a bo'r Tad inda i? Sa i'n gweud beth dw i'n gweud wrthoch chi ar in gomands in unan; i Tad sy'n byw inda i sy'n neud i waith i unan. Credwch chi fi bo fi in i Tad a bod i Tad inda i; neu credwch i pethe sy wedi câl u neud. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd unrhiw un sy'n credu inda i in neud i pethe dw i'n u neud, a hyd 'n ôd pethe mwy 'na 'ny achos bo fi'n mynd i fod da'r Tad; a beth binnag newch chi ofyn amdano in in enw i, bidda i in i neud, fel bo'r Tad in câl gogoniant in i Mab. Os gofinnwch chi am unrhiw beth in in enw i, bidda i'n i neud e.
Darllen Ioan 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 14:5-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos