Yr Iesu gan hyny a gymmerodd y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhanodd i'r rhai oedd yn eistedd i fwyta: yr un modd hefyd o'r pysgod cymaint ag a fynent. A phan y digonwyd hwynt, efe a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Cesglwch ynghyd y darnau toredig sydd yn ngweddill, fel na choller dim.