Ioan 6:11-12
Ioan 6:11-12 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna cymerodd Iesu y torthau, ac ar ôl adrodd gweddi o ddiolch, eu rhannu i’r bobl oedd yn eistedd. Yna gwnaeth yr un peth gyda’r pysgod, a chafodd pawb gymaint ag oedden nhw eisiau. Ar ôl i bawb gael llond eu boliau, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sydd dros ben. Peidiwch gwastraffu dim.”
Ioan 6:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cymerodd Iesu y torthau, ac wedi diolch fe'u rhannodd i'r rhai oedd yn eistedd. Gwnaeth yr un peth hefyd â'r pysgod, gan roi i bob un faint a fynnai. A phan oeddent wedi cael digon, meddai wrth ei ddisgyblion, “Casglwch y tameidiau sy'n weddill, rhag i ddim fynd yn wastraff.”
Ioan 6:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a gymerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a’u rhannodd i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r rhai oedd yn eistedd; felly hefyd o’r pysgod, cymaint ag a fynasant. Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Cesglwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim.