Yna y dygwyd un parlysig, yn cael ei gario gàn bedwar, y rhai, gàn na allent ddyfod yn agos ato, oblegid y dorf, á ddidöasant y lle yr oedd Iesu; a thrwy yr egoriad á ollyngasant i waered y glwth, àr yr hwn y gorweddai y parlysig. Iesu yn canfod eu ffydd hwynt, á ddywedodd wrth y parlysig, Fab, maddeuwyd i ti dy bechodau. Eithr rhyw ysgrifenyddion y rhai oeddynt bresennol, á resymasant ynynt eu hunain fel hyn; Pa fodd y mae hwn yn dywedyd y fath gableddau? Pwy á ddichon faddau pechodau ond Duw? Iesu yn ebrwydd yn gwybod ynddo ei hun eu bod yn ymresymu fel hyn ynynt eu hunain, á ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn rhesymu fel hyn yn eich calonau? Pa un hawddach, dywedyd wrth y parlysig, Maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd yn effeithiol, Cyfod, cymer i fyny dy lwth, a rhodia? Ond fel y gwybyddoch bod gàn Fab y Dyn awdurdod àr y ddaiar i faddau pechodau, cyfod (meddai efe wrth y parlysig,) yr wyf yn gorchymyn i ti, cymer i fyny dy lwth a dos adref. Yn y fan efe a gododd, á gymerodd i fyny ei lwth, ac á gerddodd allan yn eu gwydd hwynt oll; fel y sỳnodd pawb, ac a gogoneddasant Dduw, gàn ddywedyd, Ni welsom ni erioed beth fel hyn.