Trachefn, efe á aeth allan tua ’r môr, a’r holl dyrfa á ymgyrchodd ato, ac efe á’u dysgodd hwynt. Wrth fyned rhagddo, efe á ganfu Lefi, mab Alphëus, yn eistedd wrth y dollfa, ac á ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe á gododd, ac á’i canlynodd ef. A phan oedd Iesu yn bwyta yn nhŷ y dyn hwn, llawer o dollwyr a phechaduriaid á osodasant eu hunain wrth y bwrdd gydag ef a’i ddysgyblion, canys llawer o’r bobl hyn á’i canlynasant ef. Yr Ysgrifenyddion a’r Phariseaid, wrth ei weled ef yn bwyta gyda thollwyr a pechaduriaid, á ddywedasant wrth ei ddysgyblion ef, Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda thollwyr a phechaduriaid? Iesu gwedi clywed hyn á atebodd, Y rhai iach ni raid iddynt wrth feddyg, ond y rhai cleifion. Ni ddaethym i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.
Darllen Ioan Marc 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan Marc 2:13-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos