Pan oeddynt yn agos i Gaersalem, wedi dyfod i Fethphage, gèr mynydd yr Oleẅwydd, Iesu á ddanfonodd ddau o’i ddysgyblion, gàn ddywedyd, Ewch i’r pentref sy gyferbyn â chwi, lle y cewch asen wedi ei rhwymo, a’i hebol gyda hi; gollyngwch hwynt, a dygwch hwynt yma. Os dywed neb ddim wrthych, dywedwch bod àr eich Meistr eu heisieu hwynt, ac efe á’u henfyn hwynt yn uniawn. A hyn oll á wnaethwyd, fel y cyflawnid geiriau y Proffwyd, “Dywedwch wrth ferch Seion, Wele y mae dy Frenin yn dyfod atat yn addfwyn, yn marchogaeth àr asen, sef llwdn anifail gweithio!” Yn ganlynol, y dysgyblion á aethant, a gwedi gwneuthur fel y gorchymynasai Iesu iddynt, á ddygasant yr asen a’r ebol, a gwedi eu gorchuddio â’u mantelli, á wnaethant iddo farchogaeth. A’r rhan fwyaf á daenasant eu mantelli àr y ffordd, ereill á dòrasant gangau o’r gwŷdd, ac á’u taenasant àr hyd y ffordd, tra yr oedd y dyrfa oedd yn myned o’r blaen, a’r hon oedd yn canlyn, yn gawrfloeddio, gàn ddywedyd, Hosanna i Fab Dafydd! Bendigedig fyddo yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Hosanna yn y goruchafion. Pan aeth efe i fewn i Gaersalem, yr holl ddinas á derfysgodd, pawb yn gofyn, Pwy yw hwn? Y dyrfa á atebodd, Iesu y Proffwyd o Nasareth yn Ngalilëa.