Yna yr aeth Iesu i fewn i deml Duw, ac á ỳrodd allan oddyno bawb à werthent ac à brynent yn y deml, ac á ddymchwelodd fyrddau y newidwyr arian, ac ystalon y rhai à werthent golomenod, ac á ddywedodd wrthynt, Ysgrifenedig yw, “Tỳ gweddi y gelwir fy nhŷ i, ond chwi á’i gwnaethoch yn ffau ysbeilwyr.” Yna daeth y deillion a’r cloffion ato yn y deml, ac efe á’u hiachâodd hwynt. Eithr yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, wrth weled y rhyfeddodau à wnaethai efe, a’r bechgyn yn llefain yn y deml, Hosanna i Fab Dafydd, á ddywedasant wrtho gyda digllonrwydd, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? Iesu á atebodd, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, “O enau mabanod a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant.” A gwedi eu gadael hwynt, efe á aeth allan o’r ddinas i Fethania, lle yr arosodd efe y noson hòno.
Darllen Matthew Lefi 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Matthew Lefi 21:12-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos