Wrth ddychwelyd i’r ddinas yn y bore, yr oedd arno eisieu bwyd, a gwedi gweled ffigysbren unig wrth y ffordd, efe á aeth ato; ond wrth ganfod dim ond dail arno, á ddywedodd, Na thyfed ffrwyth arnat ti o hyn allan. A’r ffigysbren á wywodd yn ebrwydd. Pan welai y dysgyblion ef, dywedasant dàn sỳnu, Mòr ebrwydd y gwywodd y ffigysbren! Iesu á atebodd, Yn wir, meddaf i chwi, pe byddai genych ffydd ddiysgog, gallech wneyd nid yn unig gymaint ag á wnaethwyd i’r ffigysbren, ond pe dywedech wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a thafler di i’r môr, hyny á fyddai. Bethbynag á ofynwch mewn gweddi, gàn gredu, chwi á’i derbyniwch.
Darllen Matthew Lefi 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Matthew Lefi 21:18-22
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos