Ac yr oedd rhyw wr yn Lystra, yn diffrwyth ei draed; cyn gloffed, o’i enedigaeth, fel na rodiasai erioed. Hwn á glywodd Baul yn llefaru, yr hwn, wedi edrych yn graff arno, a chanfod bod ganddo ffydd i gael ei iachâu; á ddywedodd, â llef uchel, Saf àr dy draed yn syth. Ac efe á neidiodd i fyny, ac á rodiodd. A’r lliaws, pan welsant yr hyn à wnaethai Paul, á godasant eu llef, gàn ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau, yn rhith dynion, a ddisgynasant atom. A Barnabas á alwasant yn Iau, a Phaul, yn Ferchyr, am mai efe oedd yr ymadroddwr pènaf. Ac offeiriad Iau, delw yr hwn oedd o flaen eu dinas, á ddyg deirw, yn nghyd â gwyrleni, i’r pyrth, ac á fỳnasai, gyda ’r lliaws, aberthu iddynt. Ond yr Apostolion, Barnabas a Phaul, pan glywsant am hyny, á rwygasant eu mantelli, ac á redasant i fewn yn mhlith y lliaws, gàn lefain, a dywedyd, Ddynion, paham y gwnewch y pethau hyn? Eich cydfarwolion ydym ni, ac yr ydym yn cyhoeddi i chwi y Newydd da, fel y troëch oddwrth y gwagbethau hyn, at y Duw byw, yr hwn á wnaeth y nef, a’r ddaiar, a’r môr, a’r holl bethau sydd ynynt: yr hwn, yn yr oesoedd gynt, á oddefodd i’r holl genedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain: èr nas gadawodd efe mo hono ei hun yn ddidyst, gàn wneuthur daioni, a rhoddi i ni gawodydd o wlaw o’r nefoedd, a thymmorau ffrwythlawn, gàn lenwi ein calonau ni â lluniaeth ac â llawenydd. A thrwy ddywedyd y pethau hyn, braidd yr attaliasant y bobl rhag aberthu iddynt.