Actau 14:15
Actau 14:15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Na! Na! Ffrindiau! Pam dych chi’n gwneud hyn? Pobl gyffredin fel chi ydyn ni! Dŷn ni wedi dod â newyddion da i chi! Rhaid i chi droi cefn ar y pethau diwerth yma, a chredu yn y Duw byw. Dyma’r Duw wnaeth greu popeth – yr awyr a’r ddaear a’r môr a’r cwbl sydd ynddyn nhw!
Actau 14:15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ddynion, pam yr ydych yn gwneud hyn? Bodau dynol ydym ninnau, o'r un anian â chwi. Cyhoeddi newydd da i chwi yr ydym, i'ch troi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddynt.
Actau 14:15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi’r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a’r môr, a’r holl bethau sydd ynddynt