Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adnodau Beiblaidd Poblogaidd o Gweithredoedd 15

A’r Apostolion a’r henuriaid á ymgynnullasant yn nghyd, i ymgynghori àr y mater hwn. A gwedi bod ymddadleu mawr, cododd Pedr i fyny, ac á ddywedodd wrthynt, Frodyr, chwi á wyddoch, ddarfod i Dduw, er ys talm o amser yn ol, yn ein plith ni ddewis, bod i’r Cenedloedd, drwy fy ngenau i, gael clywed gair yr efengyl, a chredu. A Duw, adnabyddwr y calonau, á ddyg dystiolaeth iddynt, gàn roddi iddynt yr Ysbryd Glan, megys y gwnaethai i ninnau: a ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gwedi puro eu calonau hwy drwy ffydd. Yn awr, gàn hyny, paham yr ydych chwi yn temtio Duw, drwy ddodi iau àr wàrau y dysgyblion, yr hon ni allai ein tadau na ninnau ei dwyn? Eithr drwy radioni yr Arglwydd Iesu, yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd a hwythau. A’r holl liaws á ddystawodd, ac á wrandawodd àr Farnabas a Phaul; yn adrodd pa arwyddion a rhyfeddodau á wnaethai Duw yn mhlith y cenedloedd, drwyddynt hwy. Yna gwedi iddynt orphen llefaru, atebodd Iago, gàn ddywedyd, Frodyr, gwrandewch arnaf fi. Y mae Simon wedi bod yn adrodd, pa wedd yr edrychodd Duw gyntaf i lawr àr y Cenedloedd, i gymeryd o’u plith bobl iddei enw. Ac â hyn y cysona geiriau y proffwydi; megys y mae yn ysgrifenedig, “Ar ol hyn y dychwelaf, ac yr ailadeiladaf babell Dafydd, yr hon sy gwedi syrthio; gwnaf, mi á ailadeiladaf ei hadfeiliau, ac á’i gosodaf yn uniawn drachefn; fel y byddo i’r gweddil o ddynion geisio yr Arglwydd, sef yr holl genedloedd y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd,” yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn, hysbys iddo ef o’r dechreuad. Herwydd paham, fy marn i yw, nad aflonyddom y rhai o’r Cenedloedd à droisant at Dduw; ond ysgrifenu o honom atynt, àr iddynt ymgadw oddwrth halogedigaeth delwau, ac oddwrth buteindra, ac oddwrth y peth à dagwyd, ac oddwrth waed. Oblegid y mae i Foses, èr y cynamseroedd, rai à’i pregethant ef, yn mhob dinas, gàn gael ei ddarllen yn y cynnullfëydd bob Seibiaeth.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Gweithredoedd 15