1
1 Ioan 4:18
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth. A’r hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad.
Cymharu
Archwiliwch 1 Ioan 4:18
2
1 Ioan 4:4
Chwychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a’u gorchfygasoch hwy: oblegid mwy yw’r hwn sydd ynoch chwi na’r hwn sydd yn y byd.
Archwiliwch 1 Ioan 4:4
3
1 Ioan 4:19
Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.
Archwiliwch 1 Ioan 4:19
4
1 Ioan 4:7
Anwylyd, carwn ein gilydd: oblegid cariad, o Dduw y mae; a phob un a’r sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw.
Archwiliwch 1 Ioan 4:7
5
1 Ioan 4:8
Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw, cariad yw.
Archwiliwch 1 Ioan 4:8
6
1 Ioan 4:10
Yn hyn y mae cariad; nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau.
Archwiliwch 1 Ioan 4:10
7
1 Ioan 4:11
Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ein gilydd.
Archwiliwch 1 Ioan 4:11
8
1 Ioan 4:9
Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei unig-anedig Fab i’r byd, fel y byddem fyw trwyddo ef.
Archwiliwch 1 Ioan 4:9
9
1 Ioan 4:20
Os dywed neb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casáu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn nis gwelodd?
Archwiliwch 1 Ioan 4:20
10
1 Ioan 4:15
Pwy bynnag a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw.
Archwiliwch 1 Ioan 4:15
11
1 Ioan 4:21
A’r gorchymyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef: Bod i’r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.
Archwiliwch 1 Ioan 4:21
12
1 Ioan 4:1-2
Anwylyd, na chredwch bob ysbryd, eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i’r byd. Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw: Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae.
Archwiliwch 1 Ioan 4:1-2
13
1 Ioan 4:3
A phob ysbryd a’r nid yw yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw ysbryd anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod, a’r awron y mae efe yn y byd eisoes.
Archwiliwch 1 Ioan 4:3
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos