1
1 Ioan 3:18
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955
Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd.
Cymharu
Archwiliwch 1 Ioan 3:18
2
1 Ioan 3:16
Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr.
Archwiliwch 1 Ioan 3:16
3
1 Ioan 3:1
Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom, fel y’n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y byd chwi, oblegid nad adnabu efe ef.
Archwiliwch 1 Ioan 3:1
4
1 Ioan 3:8
Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o’r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol.
Archwiliwch 1 Ioan 3:8
5
1 Ioan 3:9
Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw.
Archwiliwch 1 Ioan 3:9
6
1 Ioan 3:17
Eithr yr hwn sydd ganddo dda’r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?
Archwiliwch 1 Ioan 3:17
7
1 Ioan 3:24
A’r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o’r Ysbryd a roddes efe i ni.
Archwiliwch 1 Ioan 3:24
8
1 Ioan 3:10
Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a’r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na’r hwn nid yw yn caru ei frawd.
Archwiliwch 1 Ioan 3:10
9
1 Ioan 3:11
Oblegid hon yw’r genadwri a glywsoch o’r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd.
Archwiliwch 1 Ioan 3:11
10
1 Ioan 3:13
Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw’r byd yn eich casáu chwi.
Archwiliwch 1 Ioan 3:13
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos