1 Ioan 4:1-2
1 Ioan 4:1-2 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ffrindiau annwyl, peidiwch credu pawb sy’n dweud eu bod nhw’n siarad drwy’r Ysbryd. Rhaid i chi eu profi nhw i weld os ydy beth maen nhw’n ddweud wir yn dod oddi wrth Dduw. Mae digon o broffwydi ffals o gwmpas. Dyma sut mae nabod y rhai sydd ag Ysbryd Duw ganddyn nhw: Mae pob un sy’n cyffesu fod y Meseia Iesu wedi dod yn berson real o gig a gwaed yn dod oddi wrth Dduw.
1 Ioan 4:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gyfeillion annwyl, peidiwch â chredu pob ysbryd, ond profwch yr ysbrydion i gael gwybod a ydynt o Dduw, oherwydd y mae gau broffwydi lawer wedi mynd allan i'r byd. Dyma sut yr ydych yn adnabod Ysbryd Duw: pob ysbryd sy'n cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd, o Dduw y mae
1 Ioan 4:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Anwylyd, na chredwch bob ysbryd, eithr profwch yr ysbrydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau broffwydi lawer wedi myned allan i’r byd. Wrth hyn adnabyddwch Ysbryd Duw: Pob ysbryd a’r sydd yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae.