1
Datguddiad 3:20
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cydfwyta gyda'n gilydd.
Cymharu
Archwiliwch Datguddiad 3:20
2
Datguddiad 3:15-16
Gwn am dy weithredoedd; nid wyt nac yn oer nac yn boeth. Gwyn fyd na fyddit yn oer neu yn boeth! Felly, gan mai claear ydwyt, heb fod nac yn boeth nac yn oer, fe'th boeraf allan o'm genau.
Archwiliwch Datguddiad 3:15-16
3
Datguddiad 3:19
Yr wyf fi'n ceryddu ac yn disgyblu'r rhai a garaf; bydd selog, felly, ac edifarha.
Archwiliwch Datguddiad 3:19
4
Datguddiad 3:8
“Gwn am dy weithredoedd, a dyma fi wedi rhoi o'th flaen ddrws agored na fedr neb ei gau. Gwn mai ychydig nerth sydd gennyt, ond cedwaist fy ngair ac ni wedaist fy enw.
Archwiliwch Datguddiad 3:8
5
Datguddiad 3:21
I'r sawl sy'n gorchfygu y rhof yr hawl i eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, megis y gorchfygais innau ac yr eisteddais gyda'm Tad ar ei orsedd ef.
Archwiliwch Datguddiad 3:21
6
Datguddiad 3:17
Dweud yr wyt, ‘Rwy'n gyfoethog, ac wedi casglu golud, ac nid oes arnaf eisiau dim’; ac ni wyddost mai gwrthrych trueni a thosturi ydwyt, yn dlawd, yn ddall, ac yn noeth.
Archwiliwch Datguddiad 3:17
7
Datguddiad 3:10
Am iti gadw fy ngair i ddyfalbarhau, byddaf finnau yn dy gadw di rhag awr y prawf sydd ar ddod ar yr holl fyd i brofi trigolion y ddaear.
Archwiliwch Datguddiad 3:10
8
Datguddiad 3:11
Yr wyf yn dod yn fuan; glyna wrth yr hyn sydd gennyt, rhag i neb ddwyn dy goron di.
Archwiliwch Datguddiad 3:11
9
Datguddiad 3:2
Bydd effro, a chryfha'r hyn sydd ar ôl gennyt, sydd ar ddarfod amdano, oherwydd ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn yng ngolwg fy Nuw i.
Archwiliwch Datguddiad 3:2
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos