1
Datguddiad 2:4
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004
Ond y mae gennyf hyn yn dy erbyn, iti roi heibio dy gariad cynnar.
Cymharu
Archwiliwch Datguddiad 2:4
2
Datguddiad 2:5
Cofia, felly, o ble y syrthiaist, ac edifarha, a gwna eto dy weithredoedd cyntaf. Os na wnei, ac os nad edifarhei, fe ddof atat a symud dy ganhwyllbren o'i le.
Archwiliwch Datguddiad 2:5
3
Datguddiad 2:10
Paid ag ofni'r pethau yr wyt ar fedr eu dioddef. Wele, y mae'r diafol yn mynd i fwrw rhai ohonoch i garchar er mwyn eich profi, ac fe gewch orthrymder am ddeg diwrnod. Bydd ffyddlon hyd angau, a rhof iti goron y bywyd.
Archwiliwch Datguddiad 2:10
4
Datguddiad 2:7
Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. I'r sawl sy'n gorchfygu, rhof yr hawl i fwyta o bren y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.”
Archwiliwch Datguddiad 2:7
5
Datguddiad 2:2
Gwn am dy weithredoedd a'th lafur a'th ddyfalbarhad, a gwn na elli oddef y rhai drwg; gwn dy fod wedi rhoi prawf ar y rhai sy'n eu galw eu hunain yn apostolion a hwythau heb fod felly, a chefaist hwy'n gelwyddog
Archwiliwch Datguddiad 2:2
6
Datguddiad 2:3
ac y mae gennyt ddyfalbarhad, a dygaist faich trwm er mwyn fy enw i, ac ni ddiffygiaist.
Archwiliwch Datguddiad 2:3
7
Datguddiad 2:17
Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. I'r sawl sy'n gorchfygu, rhof gyfran o'r manna cuddiedig, a rhof hefyd garreg wen, ac yn ysgrifenedig ar y garreg enw newydd na fydd neb yn ei wybod ond y sawl sydd yn ei derbyn.”
Archwiliwch Datguddiad 2:17
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos