Datguddiad 2:17
Datguddiad 2:17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy’n ennill y frwydr yn cael bwyta’r manna sydd wedi’i gadw o’r golwg. Bydda i hefyd yn rhoi carreg wen i bob un ohonyn nhw. Bydd enw newydd wedi’i ysgrifennu ar y garreg, a neb yn gwybod yr enw ond y sawl sy’n derbyn y garreg.’
Datguddiad 2:17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. I'r sawl sy'n gorchfygu, rhof gyfran o'r manna cuddiedig, a rhof hefyd garreg wen, ac yn ysgrifenedig ar y garreg enw newydd na fydd neb yn ei wybod ond y sawl sydd yn ei derbyn.”
Datguddiad 2:17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae’r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi; I’r hwn sydd yn gorchfygu, y rhoddaf iddo fwyta o’r manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garreg enw newydd wedi ei ysgrifennu, yr hwn nid edwyn neb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.