Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 20

20
1-16Ac àr ol gostegu y terfysg, Paul, wedi galw y dysgyblion ato, a’u cofleidio, á ymadawodd i fyned i Facedonia. A gwedi iddo fyned drwy y parthau hyny, a’u cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe á ddaeth i dir Groeg. A gwedi aros yno drimis, fel yr oedd cynllwyn yn cael ei wneuthur iddo gàn yr Iuddewon, pan oedd efe àr fedr morio i Syria, efe á farnodd yn gymhwys ddychwelyd drwy Facedonia. A Sopater, y Berëad, á gydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia; ac o’r Thessaloniaid, Aristarchus a Secundus; a Gaius o Dderbe, a Thimothëus; ac o’r Asiaid, Tychicus a Throphimus. Y rhai hyn wedi myned o’r blaen, á arosasant am danom yn Nhroas. A ninnau á hwyliasom o Philippi, àr ol dyddiau y bara croew, ac á ddaethom atynt hwy i Droas mewn pumm niwrnod, lle yr arosasom saith niwrnod. Ac àr y dydd cyntaf o’r wythnos, wedi i’r dysgyblion ddyfod yn nghyd i dòri bara, Paul, àr fedr myned ymaith dranoeth, a ymadroddodd wrthynt, ac á barâodd yn areithio hyd hanner nos. Ac yr oedd llygyrn lawer yn yr oruwchystafell, lle yr oeddym wedi ymgasglu; a rhyw wr ieuanc, a’i enw Eutychus, yn eistedd mewn ffenestr, á syrthiodd mewn trymgwsg: a fel yr oedd Paul yn ymadroddi yn hir, efe á orchfygwyd gymaint gàn gwsg, nes y cwympodd i lawr o’r drydedd lofft, ac á gymerwyd i fyny yn farw. A Phaul á aeth i waered, ac á syrthiodd arno ef, a chàn ei gymeryd ef yn ei freichiau, á ddywedodd, Na wnewch ddim cyffro, canys y mae ei fywyd ynddo ef. A gwedi iddo fyned i fyny drachefn, a thòri bara, a bwyta, efe á ymddyddanodd yn hir, nod hyd dòriad y dydd, a felly á aeth ymaith. A hwy á ddygasant y llanc yn fyw, ac á gysurwyd yn ddirfawr. Ond nyni á aethom o’r blaen i’r llong, ac á hwyliasom i Assos, lle yr oeddym i gymeryd Paul i fyny, canys felly yr oedd efe gwedi trefnu, gàn ddewis myned ei hun àr ei draed. A chygynted ag y cyfarfu efe â ni yn Assos, ni á’i derbyniasom ef i fewn, ac á ddaethom i Fitylene. A gwedi morio o honom oddyno, ni á ddaethom dranoeth gyferbyn á Chios; a thradwy y tiriasom yn Samos, a gwedi aros yn Nhrogỳlium, ni á ddaethom yr ail dydd i Filetus. Oblegid Paul á roddasai ei fryd àr hwylio heibio i Ephesus, fel na byddai iddo dreulio amser yn Asia; canys ymdrechu yr oedd yn egniol, os byddai alluadwy iddo, i fod yn Nghaersalem erbyn dydd y Pentecost.
17-38Ond efe á ddanfonodd i Ephesus o Filetus, ac á alwodd yno henuriaid y gynnulleidfa. A phan ddaethant ato, efe á ddywedodd wrthynt, Chwi á wyddoch pa fodd y bum i gyda chwi yr holl amser, èr y dydd cyntaf y daethym i Asia, yn gwasanaethu yr Arglwydd gyda phob gostyngeiddrwydd, ac â dagrau, a phrofedigaethau y rhai á ddygwyddasant i mi drwy gynllwynion yr Iuddewon: a’r modd nad atteliais ddim o’r pethau buddiol, heb eu mynegi i chwi, a’ch dysgu yn gyhoedd ac annghyhoedd; gàn dystiolaethu i’r Iuddewon, ac i’r Groegiaid hefyd, ddiwygiad gyda golwg àr Dduw, a ffydd gyda golwg àr ein Harglwydd Iesu Grist. Ac yn awr, wele, yr wyf yn myned i Gaersalem, yn rwym gàn yr Ysbryd, heb wybod y pethau à ddygwyddant i mi yno: ond bod yr Ysbryd Glan yn tystiolaethu yn mhob dinas, gàn ddywedyd, bod rhwymau a blinderau yn fy aros. Ond nid wyf fi yn gwneuthur cyfrif o ddim o’r pethau hyn, a nid wyf yn prisio hyd yn nod bywyd ei hun; os gallaf ond gorphen fy ngyrfa drwy lawenydd, a’r weinidogaeth à dderbyniais gàn yr Arglwydd Iesu, sef tystiolaethu newydd da rhadioni Duw. Ac yn awr, wele, mi á wn na chewch chwi oll, yn mysg y rhai y bum i yn tramwy, yn cyhoeddi teyrnas Duw, weled fy wyneb i mwyach. O herwydd paham, yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddyw, fy mod i yn lân oddwrth waed pawb oll, Canys nid ymatteliais rhag mynegi i chwi holl gynghor Duw. Edrychwch, gàn hyny, atoch eich hunain, ac at yr holl braidd, àr yr hwn y gosododd yr Ysbryd Glan chwi yn olygwyr; i fugeilio cynnulleidfa yr Arglwydd, yr hon á brynodd efe â’i briod waed. Canys myfi á wn hyn, y daw, àr ol fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i’ch plith, heb arbed y praidd. Ië, o honoch chwi eich hunain y cyfyd dynion yn llefaru pethau gwyrdraws, i dỳnu dysgyblion àr eu hol. Gwyliwch, gàn hyny, gàn gofio, dros dair blynedd na pheidiais i nos a dydd â rhybyddio pob un o honoch â dagrau. Ac yn awr, frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei radioni ef, yr hwn á all eich adeiladau chwi, a rhoddi i chwi etifeddiaeth yn mhlith yr holl rai à santeiddiwyd. Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwennychais. Ie, chwi á wyddoch eich hunain, ddarfod i’r dwylaw hyn wasanaethu i’m cyfreidiau i, ac i’r sawl oedd gyda mi. Mi á ddangosais i chwi bob peth, mai wrth lafurio felly, y dylech gynnorthwyo y gweiniaid, a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddarfod iddo ddywedyd ei hun, Dedwyddach o lawer yw rhoddi na derbyn. A gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe á roddodd ei liniau i lawr, ac á weddiodd gyda hwynt oll. Ac wylo yn dost á wnaeth pawb; a gwedi iddynt syrthio àr wddf Paul, hwy á’i cusanasant ef: gàn ofidio yn bènaf am y gair à ddywedasai efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy á’i hebryngasant ef i’r llong.

Právě zvoleno:

Gweithredoedd 20: CJW

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas