Gweithredoedd 21
21
DOSBARTH XIV.
Paul yn dychwelyd i Gaersalem. – Ei Ymddygiad a’r Driniaeth à gafodd yno.
1-14A chygynted ag yr ymadawsom â hwynt, a gosod allan, ni á ddaethom yn uniongyrch i Goos, a thranoeth i Rodes, ac oddyno i Batara. A gwedi i ni gael llong yn myned drosodd i Phenice, ni á ddringasom iddi, ac á aethom allan i’r môr. A gwedi i ni ddyfod i olwg Cyprus, a’i gadael hi àr y llaw aswy, ni á hwyliasom i Syria, ac á diriasom yn Nhyrus: canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth. A ni á arosasom yno saith niwrnod, wedi cael dysgyblion, y rhai á ddywedasant i Baul, drwy yr Ysbryd, am beidio myned i fyny i Gaersalem. Ond wedi gorphen o honom y saith niwrnod hyn, ni á ymadawsom, ac á gychwynasom; a hwy oll á’n hebryngasant ni allan o’r ddinas, yn nghyd â’u gwragedd a’u plant; a, gwedi i ni ostwng àr ein gliniau àr y traeth, ni á weddiasom. A gwedi i ni gofleidio ein gilydd, ni á ddringasom i’r llong; a hwythau á ddychwelasant iddeu cartref. A gwedi i ni orphen ein mordraith, ni á ddaethom o Dyrus i Btolemais, a gwedi i ni gofleidio y brodyr, ni á arosasom gyda hwynt un diwrnod. A thranoeth yr ymadawsom, ac y daethom i Gaisarea; a gwedi i ni fyned i fewn i dŷ Phylip yr efengylwr, yr hwn oedd un o’r saith, ni á letyasom gydag ef. Ac i hwn yr oedd pedair merch o wyryfon, y rhai oeddynt broffwydesau. A fel yr oeddym yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i waered o Iuwdea broffwyd a’i enw Agabus; a gwedi dyfod atom, efe á gymerodd wregys Paul, a gwedi iddo rwymo ei ddwylaw ei hun a’i draed, efe á ddywedodd, Fel hyn y dywed yr Ysbryd Glan, Felly y rhwym yr Iuddewon yn Nghaersalem y gwr bïau y gwregys hwn, ac á’i traddodant ef i ddwylaw y Cenedloedd. A phan glywsom y pethau hyn, nyni a phreswylwyr y lle hwnw hefyd, á ddeisyfasom arno beidio myned i fyny i Gaersalem. Ond Paul á atebodd, Beth á wnewch chwi yn wylo, ac yn tòri fy nghalon i? canys parod ydwyf, nid yn unig i gael fy rhwymo, ond i farw hefyd yn Nghaersalem, dros enw yr Arglwydd Iesu. A phan na ellid ei ddarbwyllo, ni á beidiasom; gàn ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd á wneler.
15-16Ac àr ol y dyddiau hyn, ni á byniasom ein clud, ac á aethom i fyny i Gaersalem. A rhai o’r dysgyblion hefyd o Gaisarea á aethant gyda ni, ac a’n dygasant ni at un Mnason, o Gyprus, hen ddysgybl, gyda ’r hwn y llettyem.
17-36A gwedi ein dyfod i Gaersalem, y brodyr á’n derbyniasant yn llawen. A’r dydd nesaf yr aeth Paul gyda ni i fewn at Iago; a’r holl henuriaid oeddynt bresennol. A gwedi iddo eu cofleidio hwynt, efe á fynegodd iddynt, bob yn un ac un, yr holl bethau à wnaethai Duw yn mhlith y Cenedloedd drwy ei weinidogaeth ef. A phan glywsant, hwy á ogoneddasant Dduw, ac á ddywedasant wrtho, Frawd, ti á weli pa sawl myrddiwn sydd o Iuddewon crediniol; ac y maent oll yn eiddigus dros y gyfraith. A hwy á glywsant am danat ti, dy fod yn dysgu yr Iuddewon oll, y rhai sydd yn mysg y Cenedloedd, i wrthgilio oddwrth Foses, gàn ddywedyd, na ddylent hwy enwaedu àr eu plant, na rhodio yn ol y defodau. Pa beth gàn hyny? Nid oes fodd na ddel y lliaws yn nghyd; canys hwy á gânt glywed dy ddyfod di. Am hyny, gwna hyn à ddywedwn wrthyt: y mae gyda ni bedwar o wŷr, a chanddynt adduned arnynt; cymer y rhai hyn, ac ymlanâa gyda hwynt, a dos i draul drostynt, fel yr eilliont eu pènau; a gwybydd pawb nad oes dim yn y pethau à glywsant am danat ti; ond dy fod di dy hun yn rhodio yn reolaidd, gàn gadw y gyfraith. Am y Cenedloedd crediniol, ni á ysgrifenasom, wedi penderfynu o honom, na byddai iddynt gadw dim o’r pethan hyn; oddieithr bod iddynt ymgadw oddwrth eilunaberth, ac oddwrth waed, ac oddwrth y peth à dagwyd, ac oddwrth buteindra. Yna Paul á gymerodd y gwŷr, a thranoeth, wedi iddo ymlanâu gyda hwynt, efe á aeth i fewn i’r deml, gàn hysbysu cyflawniad dyddiau y glanâad, hyd oni offrymid offrwm dros bob un o honynt. Ond fel yr oedd y saith niwrnod àr ddyfod i ben, yr Iuddewon à oeddent o Asia, pan welsant ef yn y deml, á derfysgasant yr holl bobl, ac á ddodasant ddwylaw arno, gàn lefain, Israeliaid, cynnorthwywch! Dyma y dyn sydd yn dysgu pawb yn mhob màn yn erbyn y bobl, a’r gyfraith, a’r lle yma; ac yn mhellach, y Groegiaid hefyd á ddyg efe i fewn i’r deml, ac á halogodd y lle santaidd hwn. (Canys hwy á welsent o’r blaen Drophimus, yr Ephesiad, yn y ddinas gydag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Baul ei ddwyn i fewn i’r deml.) A’r holl ddinas á gynhyrfwyd, ac yr oedd yno gydgyrch o’r bobl; a gwedi ymaflyd yn Mhaul, hwy á’i llusgasant ef allan o’r deml: ac yn ebrwydd cauwyd y drysau. A phan oeddynt àr fyned iddei ladd ef, dygwyd gair at gadben y cadgordd, bod Caersalem oll mewn terfysg: yr hwn allan o law á gymerodd filwyr, a chanwriaid, ac á redodd i waered atynt. A phan welsant y cadben a’r milwyr, hwy á beidiasant â churo Paul. Yna y cadben á nesâodd, ac á’i daliodd ef, ac á archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn, ac á ymofynodd pwy oedd efe, a pha beth á wnaethai. A rhai yn mhlith y dyrfa á lefent un peth, ac ereill beth arall: ac am nas gallai wybod y sicrwydd o herwydd y terfysg, efe á orchymynodd ei ddwyn ef i’r castell. Ond pan oedd efe ár y grisiau, dygwyddodd orfod ei ddwyn ef gàn y milwyr, o achos trais y dyrfa. Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gàn lefain, Ymaith ag ef.
37-39Ond pan oedd Paul àr gael ei ddwyn i’r castell, efe á ddywedodd wrth y cadben, A gaf fi gènad i ddywedyd peth wrthyt? Ac yntau á ddywedodd, A fedri di Roeg? Onid tydi yw yr Aifftiwr hwnw, yr hwn, o flaen y dyddiau hyn, á gyfododd derfysg, ac á arweiniodd i’r anialwch bedair mil o wŷr llofruddiog? Ond Paul á ddywedodd, Iuddew wyf fi yn wir, o Darsus, yn Nghilicia, dinesydd o ddinas nid anenwog; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gènad i mi i lefaru wrth y bobl.
40A gwedi iddo roi cènad iddo, Paul yn sefyll àr y grisiau, á amneidiodd â’i law àr y bobl; a phan ydoedd dystawrwydd mawr, efe à’u hanerchodd hwynt yn y llafarwedd Hebreig, gàn ddywedyd: –
Právě zvoleno:
Gweithredoedd 21: CJW
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.