Marc 10
10
Ynghylch ysgar
[Mat 19:3–12]
1Ac efe a gyfododd oddi yno, ac y mae yn dyfod i gyffiniau Judea, a thu#10:1 thu hwnt א B C Brnd. trwy y tu hwnt A. hwnt#10:1 sef Peraea. i'r Iorddonen; a thrachefn tyrfaoedd a gyd‐gyrchant ato; ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dysgodd hwynt. 2A Phariseaid#10:2 Felly A B La. Tr. Al. WH. Diw. A'r Phariseaid א C Ti. a ddaethant ato ac a ofynasant iddo, A ydyw gyfreithlawn i wr roddi ymaith ei wraig?#Deut 24:1, gan ei demtio#10:2 Neu, brofi. ef. 3Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchymynodd Moses i chwi? 4A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifenu ysgrifdyst#10:4 Biblion, llyth.: llyfr bychan, ysgrif. ysgar#10:4 ymadawiad, gwrthgiliad, gwrthodiad., a'i gollwng hi ymaith. 5Ond yr Iesu#10:5 a atebodd ac A D. Gad. א B C L Δ Brnd. a ddywedodd wrthynt, I gwrdd#10:5 pros, llyth.: mewn perthynas i. a'ch calon‐galedwch#10:5 Gair Beiblaidd yn unig. yr ysgrifenodd efe i chwi y gorchymyn hwn: 6Ond o ddechreuad y Greadigaeth, yn wrryw a benyw y gwnaeth efe#10:6 Felly א B C L Δ Ti. Tr. WH. Diw. Duw A D [Al.] hwynt#Gen 1:27. 7O achos hyn y gâd dyn ei dâd a'i fam, ac#10:7 ac y glyn wrth ei wraig A C D Tr. Al. Diw. Gad. א B Ti. WH. y glŷn wrth ei wraig#Gen 2:24; 8a hwy ill dau a fyddant un#10:8 Llyth.: i un. cnawd; fel nad ydynt mwyach ddau, ond un cnawd. 9Y peth gan hyny a gyd‐ieuodd#10:9 Neu, gyssylltodd. Duw, na wahaned dyn. 10Ac yn#10:10 Llyth.: (wedi myned) i'r ty [yn ol א B D L]. y tŷ drachefn ei Ddysgyblion a ofynasant iddo ynghylch hyn#10:10 hyn A B C L Brnd.; yr un peth D.. 11Ac efe a ddywed wrthynt, Pwy bynag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi. 12Ac os hithau#10:12 hithau א B C L Δ Brnd.; gwraig A D. a ollyngo ymaith ei gwr, ac a briodo arall, y mae yn godinebu.
Crist yn bendithio plant bychain
[Mat 19:13–15; Luc 18:15–17]
13A hwy a ddygasant ato blant bychain, fel y cyffyrddai â hwynt: ond y Dysgyblion a geryddasant y#10:13 hwynt (o Mat ?) B C L Δ. Y rhai oedd yn eu dwyn A D Al. Tr. Diw. rhai oedd yn eu dwyn. 14Ond pan welodd yr Iesu, bu ddigllawn ganddo, ac efe a ddywedodd wrthynt, Gadêwch y plant bychain ddyfod ataf fi: na waherddwch iddynt; canys eiddo y cyfryw yw Teyrnas Dduw#10:14 Llyth.: canys o'r cyfryw y mae Teyrnas Dduw, sef o'r fath gymmeriad neu yspryd (Grimm); “canys i rai o'r fath y mae Teyrnas Dduw.”. 15Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynag ni dderbynio Deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid a efe o gwbl i mewn iddi. 16A chan eu cofleidio#10:16 Gweler 9:36, efe#10:16 Felly א B C L Brnd. efe, gan osod ei ddwylaw arnynt, a'u bendithiodd A D La. a'u bendithiodd gyd â hoffder#10:16 Kateulogeô, llwyr‐fendithio, bendithio yn wresog (Alford). Ni ddygwydd ond yma., gan osod ei ddwylaw arnynt.
Y gwr ieuanc cyfoethog a bywyd tragywyddol
[Mat 19:16–22; Luc 18:18–23]
17Ac fel yr oedd efe yn myned allan i'r ffordd, rhedodd un ato, ac a syrthiodd ar ei liniau o'i flaen, ac a ofynodd iddo, O Athraw#10:17 Neu, O Feistr. da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol? 18A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw. 19Ti a wyddost y gorchymynion, —
Na ladd#10:19 Na ladd, na odineba B C Δ La. WH. Diw.; na odineba, na ladd A X Al. Tr.,
Na odineba,
Na ladrata,
Na cham‐dystiolaetha,
Na cham‐golleda#10:19 Neu, Nac ysbeilia, na ddifeddiana. (Saif am y degfed gorchymyn, Na chwenycha dŷ dy gymydog, &c.),
Anrhydedda dy dâd a'th fam#Ex 20:12–17; Lef 19:11–13.
20Ac efe a ddywedodd wrtho, Athraw, y rhai hyn oll mi a gedwais#10:20 Llyth.: wyliais drostynt. yn ddyfal o'm hieuengctyd. 21A'r Iesu, gan edrych arno#10:21 emblepô, edrych yn ddiysgog a difrifol, craffu. Enghreifftiau: Ioan Fedyddiwr yn gweled a chraffu ar Iesu, Ioan 1:36; y law‐forwyn yn craffu ar Petr Marc 14:67; Iesu yn edrych ar Petr ar y cychwyn, Ioan 1:42, a thua'r diwedd, cyn canu o geiliog, Luc 22:61. yn ddifrifol, a'i carodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti; dos, gwerth yr hyn oll sydd genyt, a dyro i dlodion#10:21 i dlodion A B Brnd.; i'r tlodion C D., a thi a gai drysor yn y Nef: a thyred, canlyn fi#10:21 gan gymmeryd i fyny y groes A Al. Gad. א B C D Brnd. ond Al.. 22A'i wedd a bruddhaodd#10:22 cymylu, pruddhau, tywyllu, fel yr wybr: “Canys y mae yr wybr yn goch ac yn bruddaidd,” Mat 16:3. wrth yr ymadrodd, ac efe a aeth ymaith yn drist, canys yr oedd ganddo feddianau lawer.
Perygl y goludog
[Mat 19:23–26; Luc 18:24–27]
23A'r Iesu a edrychodd o amgylch, ac a ddywed wrth ei Ddysgyblion, Mor anhawdd yr a y rhai y mae golud ganddynt i Deyrnas Dduw! 24Ond y Dysgyblion a lanwyd â syndod wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywed wrthynt, O blant, mor anhawdd yw myned#10:24 i'r rhai a ymddiriedant mewn golud A C D La. Al. Tr. Diw. Gad. א B Δ, cyfieithiadau Lladinaidd, Ti. WH. Ymddengys yr ychwanegiad fel ymdrech i esbonio dadganiad pell‐gyrhaeddol Crist. i mewn i Deyrnas Dduw. 25Y mae yn hawddach i gamel#10:25 Camel. Llawer cynyg i esbonio y gair, megys (1) rhoddi kamilon, rhaff, yn lle kamêlon, camel; (2) cymmeryd nodwydd fel enw porth bychan i ymdeithwyr traed, yn ymyl y prif‐borth oedd yn ymagor i ddinasoedd; ond gwell cymmeryd yr ymadrodd yn llythyrenol, a'i ystyried fel diareb. fyned trwy grai nodwydd#10:25 raphis, nodwydd gyffredin. Defnyddia Luc 18:25 belonê, y nodwydd law‐feddygol., nag i oludog fyned i mewn i Deyrnas Dduw. 26A hwy a darawyd â syndod dirfawr, gan ddywedyd wrtho#10:26 wrtho ef B C Δ WH. Diw.; yn eu plith eu hunain A D Al. Tr. ef, A phwy a all fod yn gadwedig? 27A'r Iesu, gan edrych yn ddifrifol arnynt, a ddywed, Gyd â dynion y mae yn anmhosibl, ond nid gyd â Duw: canys pob peth sydd bosibl gyd â Duw.
Colled ac enill
[Mat 19:27–30; Luc 18:28–30]
28Dechreuodd Petr ddywedyd wrtho, Wele, nyni ydym wedi gadael pob peth, a'th ganlyn di#1:16–20; 2:14. 29Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i ti, nid oes neb a'r a adawodd dŷ#10:29 Neu, deulu., neu frodyr, neu chwiorydd, neu fam#10:29 neu fam, neu dâd B C Δ Brnd.; neu dâd, neu fam א A C., neu dâd,#10:29 neu wraig A C: gad. א B D Brnd., neu blant, neu diroedd#10:29 Llyth.: feusydd., er fy mwyn i, ac er mwyn yr Efengyl, 30a'r ni dderbyn càn cymmaint yn awr y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau#10:30 mamau B Al. WH. Diw.; mam A C D Tr., a phlant#10:30 Sylwer gyda'r fath foesgarwch y gadawa Crist allan, a gwragedd. Julian y Gwrthgiliwr a gam‐gyhuddodd ein Harglwydd o addaw cant o wragedd i'w ganlynwyr., a thiroedd#10:30 Llyth.: feusydd., ynghyd âg erlidiau; ac yn y byd#10:30 Neu, oes. sydd yn dyfod fywyd tragywyddol#10:30 Llyth.: oesol; yna, parhaol, tragywyddol.. 31Ond llawer sydd gyntaf fyddant ddiweddaf, a'r diweddaf, gyntaf.
Y trydydd rhag‐ddywediad o'i Farwolaeth a'i Adgyfodiad
[Mat 20:17–19; Luc 18:31–34]
32Ac yr oeddynt ar#10:32 Llyth.: yn. y ffordd yn myned i fyny i Jerusalem; a'r Iesu oedd yn myned o'u blaen hwynt: a bu ryfedd#10:32 O wreiddair a ddynoda methu a symud; yna, llanw â syndod neu fraw. ganddynt; a'r rhai#10:32 a'r rhai a ganlynasant א B C L Ti. Tr. WH.; a chan ganlyn A X Al. Diw. a ganlynasant a ofnasant. Ac wedi iddo drachefn gymmeryd ato y Deuddeg, efe a ddechreuodd ddywedyd iddynt y pethau oeddynt ar ddygwydd iddo ef: 33Wele, yr ydym yn myned i fyny i Jerusalem; a Mab y Dyn a draddodir i'r Arch‐offeiriaid, ac i'r Ysgrifenyddion; a hwy a'i coll‐farnant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant i'r Cenedloedd#10:33 Sef y Rhufeiniaid.. 34A hwy a'i gwatwarant#10:34 Llyth.: chwareu âg ef; yna, gwawdio, cellwair, ffoli, chwerthin am ben. ef, ac#10:34 Felly א B C D L Δ Brnd. Ac a'i fflangellant, ac a boerant arno A X. a boerant arno, ac a'i fflangellant, ac a'i lladdant#10:34 Crybwylla Matthew, Marc, a Luc am y gwatwar a'r fflangellu; Marc a Luc am y poeri; Matthew am y croeshoelio: Marc a Luc am y rhoddi i farwolaeth; felly cyfeiria Luc at y rhan a gymmerodd y Cenedloedd yn ei ddyoddefiadau., ac wedi#10:34 ar ol tridiau א B C D Brnd.: ar y trydydd dydd A X. tridiau, efe a adgyfyd.
Yr hyn yw penogaeth Gristionogol
[Mat 20:20–28; Luc 22:24–27]
35Ac y mae yn dyfod ato Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, gan ddywedyd wrtho, Athraw, ni a fynem i ti wneuthur i ni pa beth bynag a ofynem i ti. 36Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth a fynech i mi ei wneuthur i chwi? 37A hwy a ddywedasant wrtho, Dyro i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, ac un ar dy aswy, yn dy Ogoniant. 38A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei geisio. A ellwch chwi yfed y cwpan a yfwyf fi, neu#10:38 [dim nodyn.] eich bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i âg ef? 39A hwy a ddywedant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Chwi#10:39 yn wir [Gr. men, diau] A D; gad. א B C Brnd. a yfwch y cwpan â yfwyf fi, neu#10:39 [dim nodyn.], fe'ch bedyddir â'r bedydd y bedyddir finau; 40ond eistedd ar fy neheulaw neu ar fy aswy, nid eiddof fi ei roddi, ond i'r sawl y mae wedi ei ddarparu. 41A phan glybu y Deg, hwy a ddechreuasant deimlo yn ddigllawn tu#10:41 Llyth.: ynghylch. ag at Iago ac Ioan. 42A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywed wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a gyfrifir#10:42 Llyth.: a ymddangosant, pa un ai yn llywodraethu mewn gwirionedd neu peidio. eu bod yn llywodraethu ar y Cenedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu#10:42 Yn eu cadw i lawr dan [kata] eu llywodraeth. arnynt; ac y mae eu Mawrion yn tra‐awdurdodi arnynt: 43ond nid felly y#10:43 y mae א B C D L Δ Brnd.: y bydd A X. mae yn eich plith chwi; ond pwy bynag a ewyllysio ddyfod yn fawr yn eich plith, a fydd yn was#10:43 diakonos, gweler 9:35. Yn yr adnod nesaf defnyddir doulos, caethwas, gwas rhwymedig. i chwi; 44a phwy bynag a ewyllysio fod y blaenaf o honoch, efe a fydd yn rwymedig-was#10:44 diakonos, gweler 9:35. Yn yr adnod nesaf defnyddir doulos, caethwas, gwas rhwymedig. i bawb. 45Canys ni ddaeth hyd y nod Mab y Dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth#10:45 lutron, y pris a delid am rydd‐had, megys caethweision (Lef 19:20); rhai mewn caethglud (Es 45:13); am arbediad bywyd (Ex 21:30); felly dynoda prynwerth, pris prynedigaeth; gweler Mat 20:28. yn lle#10:45 anti, gosod un peth gyferbyn neu yn lle un arall. Cyflea y syniad o dros‐osodiad neu ddirprwyaeth, ac o gydwerthedd (“llygad yn lle llygad,” &c.), “yr hwn a roddodd ei hun yn bridwerth, yn lle a thros bawb,” 1 Tim 2:6. llawer.
Mab Dafydd yn iachâu cardotyn dall
[Mat 20:29–34; Luc 18:35–43]
46A hwy a ddeuant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, a'i Ddysgyblion, a thyrfa luosog#10:46 Gr. ddigonol., mab#10:46 Felly B L Δ Brnd.: un dall a chardotyn א: Bartimëus ddall, Mab Timeus, a eisteddai ar fin y ffordd, yn cardota A C. Timëus, Bartimëus#10:46 Golyga Bartimeus mab Timeus, ond defnyddid yr oll o'r gair fel enw priodol., cardotyn dall, a eisteddai ar ymyl y ffordd. 47A phan glybu, Iesu o Nazareth ydyw, efe a ddechreuodd waeddi a dywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf. 48A llawer a'i ceryddasant ef, fel y tawai: ond efe a waeddodd yn fwy o lawer, O Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf. 49A'r Iesu a safodd, ac a ddywedodd, Gelwch#10:49 Felly א B C L Δ Brnd.; (ac a archodd) i'w alw ef A D X. ef. Ac y maent yn galw y dall, ac yn dywedyd wrtho, Cymmer galon#10:49 Llyth.: bydd ddewr.: cyfod: y mae efe yn dy alw di. 50Ac efe wedi taflu ymaith ei gochl#10:50 ei wisg uchaf., a neidiodd#10:50 neidiodd i fyny א B D L Δ Brnd. a gyfododd i fyny A C X. i fyny, ac a ddaeth at yr Iesu. 51A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fyni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Rabboni#10:51 Rabboni. Yr oedd tri gradd yn y teitlau a roddid i ddysgawdwyr yn mhlith yr Iuddewon, sef Rab, Rabbi, a Rabboni, yn cyfateb i Athraw, Fy Athraw, Fy Athraw mawr neu Fy Mhrif‐Athraw, [Rabboni, meistr, pennaeth, tywysog]., cael fy ngolwg#10:51 Llyth.: edrych i fyny (i weled goleuni yr haul).. 52A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: y mae dy ffydd wedi dy iachâu#10:52 Neu achub.. Ac yn ebrwydd efe a gafodd ei olwg#10:52 Llyth.: edrych i fyny (i weled goleuni yr haul)., ac a'i canlynodd ef#10:52 [dim nodyn.] ar hyd y ffordd.
دیاریکراوەکانی ئێستا:
Marc 10: CTE
بەرچاوکردن
هاوبەشی بکە
لەبەرگرتنەوە

دەتەوێت هایلایتەکانت بپارێزرێت لەناو ئامێرەکانتدا> ? داخڵ ببە
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.