Ioan 13

13
Golchi Traed y Disgyblion
1Ar drothwy gŵyl y Pasg, yr oedd Iesu'n gwybod fod ei awr wedi dod, iddo ymadael â'r byd hwn a mynd at y Tad. Yr oedd wedi caru'r rhai oedd yn eiddo iddo yn y byd, ac fe'u carodd hyd yr eithaf#13:1 Neu, hyd y diwedd.. 2Yn ystod swper, pan oedd y diafol eisoes wedi gosod yng nghalon Jwdas fab Simon Iscariot y bwriad i'w fradychu ef, 3dyma Iesu, ac yntau'n gwybod bod y Tad wedi rhoi pob peth yn ei ddwylo ef, a'i fod wedi dod oddi wrth Dduw a'i fod yn mynd at Dduw, 4yn codi o'r swper ac yn rhoi ei wisg o'r neilltu, yn cymryd tywel ac yn ei glymu am ei ganol. 5Yna tywalltodd ddŵr i'r badell, a dechreuodd olchi traed y disgyblion, a'u sychu â'r tywel oedd am ei ganol. 6Daeth at Simon Pedr yn ei dro, ac meddai ef wrtho, “Arglwydd, a wyt ti am olchi fy nhraed i?” 7Atebodd Iesu ef: “Ni wyddost ti ar hyn o bryd beth yr wyf fi am ei wneud, ond fe ddoi i wybod ar ôl hyn.” 8Meddai Pedr wrtho, “Ni chei di olchi fy nhraed i byth.” Atebodd Iesu ef, “Os na chaf dy olchi di, nid oes lle iti gyda mi.” 9“Arglwydd,” meddai Simon Pedr wrtho, “nid fy nhraed yn unig, ond golch fy nwylo a'm pen hefyd.” 10Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'r sawl sydd wedi ymolchi drosto yn lân i gyd, ac nid oes arno angen golchi dim ond ei draed.#13:10 Yn ôl darlleniad arall, angen ymolchi eto. Ac yr ydych chwi yn lân, ond nid pawb ohonoch.” 11Oherwydd gwyddai pwy oedd am ei fradychu. Dyna pam y dywedodd, “Nid yw pawb ohonoch yn lân.”
12Wedi iddo olchi eu traed, ac ymwisgo a chymryd ei le unwaith eto, gofynnodd iddynt, “A ydych yn deall beth yr wyf wedi ei wneud i chwi? 13Yr ydych chwi'n fy ngalw i yn ‘Athro’ ac yn ‘Arglwydd’, a hynny'n gwbl briodol, oherwydd dyna wyf fi. 14Os wyf fi, felly, a minnau'n Arglwydd ac yn Athro, wedi golchi eich traed chwi, fe ddylech chwithau hefyd olchi traed eich gilydd. 15Yr wyf wedi rhoi esiampl i chwi; yr ydych chwithau i wneud fel yr wyf fi wedi ei wneud i chwi. 16Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid yw unrhyw was yn fwy na'i feistr, ac nid yw'r un a anfonir yn fwy na'r un a'i hanfonodd. 17Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gweithredwch arnynt. 18Nid wyf yn siarad amdanoch i gyd. Yr wyf fi'n gwybod pwy a ddewisais. Ond y mae'n rhaid i'r Ysgrythur gael ei chyflawni: ‘Y mae'r un sy'n bwyta fy mara i wedi codi ei sawdl yn f'erbyn.’ 19Yr wyf fi'n dweud wrthych yn awr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn ichwi gredu, pan ddigwydd, mai myfi yw. 20Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae'r sawl sy'n derbyn unrhyw un a anfonaf fi yn fy nerbyn i, ac y mae'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i.”
Iesu'n Rhagfynegi ei Fradychu
Mth. 26:20–25; Mc. 14:17–21; Lc. 22:21–23
21Wedi iddo ddweud hyn, cynhyrfwyd ysbryd Iesu a thystiodd fel hyn: “Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych fod un ohonoch yn mynd i'm bradychu i.” 22Dechreuodd y disgyblion edrych ar ei gilydd, yn methu dyfalu am bwy yr oedd yn sôn. 23Yr oedd un o'i ddisgyblion, yr un yr oedd Iesu'n ei garu, yn nesaf ato ef wrth y bwrdd. 24A dyma Simon Pedr yn rhoi arwydd i hwn i holi Iesu am bwy yr oedd yn sôn. 25A dyma'r disgybl hwnnw yn pwyso'n ôl ar fynwes Iesu ac yn gofyn iddo, “Pwy yw ef, Arglwydd?” 26Atebodd Iesu, “Yr un y gwlychaf y tamaid yma o fara a'i roi iddo, hwnnw yw ef.” Yna gwlychodd y tamaid a'i roi i Jwdas fab Simon Iscariot. 27Ac yn dilyn ar hyn, aeth Satan i mewn i hwnnw. Meddai Iesu wrtho, “Yr hyn yr wyt yn ei wneud, brysia i'w gyflawni.” 28Nid oedd neb o'r cwmni wrth y bwrdd yn deall pam y dywedodd hynny wrtho. 29Gan mai yng ngofal Jwdas yr oedd y god arian, tybiodd rhai fod Iesu wedi dweud wrtho, “Pryn y pethau y mae arnom eu heisiau at yr ŵyl”, neu am roi rhodd i'r tlodion. 30Yn union wedi cymryd y tamaid bara aeth Jwdas allan. Yr oedd hi'n nos.
Y Gorchymyn Newydd
31Ar ôl i Jwdas fynd allan dywedodd Iesu, “Yn awr y mae Mab y Dyn wedi ei ogoneddu, a Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef. 32Ac os yw Duw wedi ei ogoneddu ynddo ef, bydd Duw yntau yn ei ogoneddu ef ynddo'i hun, ac yn ei ogoneddu ar unwaith. 33Fy mhlant, am ychydig amser eto y byddaf gyda chwi; fe chwiliwch amdanaf, a'r hyn a ddywedais wrth yr Iddewon, yr wyf yn awr yn ei ddweud wrthych chwi hefyd, ‘Ni allwch chwi ddod lle'r wyf fi'n mynd.’ 34Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd. 35Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.”
Rhagfynegi Gwadiad Pedr
Mth. 26:31–35; Mc. 14:27–31; Lc. 22:31–34
36Meddai Simon Pedr wrtho, “Arglwydd, i ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd Iesu ef, “Lle'r wyf fi'n mynd, ni elli di ar hyn o bryd fy nghanlyn, ond fe fyddi'n fy nghanlyn maes o law.” 37“Arglwydd,” gofynnodd Pedr iddo, “pam na allaf dy ganlyn yn awr? Fe roddaf fy einioes drosot.” 38Atebodd Iesu, “A roddi dy einioes drosof? Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthyt, ni chân y ceiliog cyn iti fy ngwadu i dair gwaith.

S'ha seleccionat:

Ioan 13: BCND

Subratllat

Comparteix

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió