Psalmau 60
60
Y Psalm. LX. Ofer‐fesur, a elwir ‘Trybedd Menaich.’
1Duw, ein gwarth ydoedh, di a ’n gwrthodaist,
Di a ’n gwasgeraist dan gas girad:
O Duw Iôr, digiaist; dyro degwch:
Daw imi hedhwch, nid o’m haedhiad.
2Dioer o hyllter daear a holltaist,
Daear a grynaist, oriog ranniad;
Y mae yn egwan yma yn agor,
Accw, a rhagor cai y rhwygiad.
3Danghosaist, ffrwynaist i’th wyr heb ffrwyth,
I gael oed o bwyth galedi heb wad;
Rhodhaist win i ’n min anghymmenair,
Y bendro a bair, ba ’nd oer y bwriad?
4Rho’ist faner dyner, hon a danant
Y sawl a’th ofnant, gwiriant gariad;
A hynny ger bron dy wirionedh
I godi arwydhwedh gyd‐arwedhiad.
5I bawb o hyder a ’r a’th gerynt,
Gwn, o iraidh hynt, y gwnai rydhhad;
Achubydh undydh wyd im’ gwrandaw,
Ag a’th dheheulaw, gwaith dheholiad.
6Im’ bydh llawn awydh a llon awel,
(I’w seintwar dawel Sant Iôr dywad,)
I’m pobloedh rhinoedh mi a rannaf
Sichem, mi fynnaf rwydhaf rodhiad.
Succoth (dyffryn pur) a fesuraf;
7Imi y gwelaf yma Gilead;
Manasses wiwffres; wedi Effrym,
Hwnnw yw y grym a henw gwiw rad.
Iuda dewisa’ ef yn d’wysawg;
8A Moab yw ’nghawg, enwawg ynad;
Ac ar gefn Edom, drom oer drumiau,
Bwriaf f’esgidiau, byrfwys godiad.
A Phalestina yna unnos
Sy llon o achos llawenychiad:
9Pa wŷs a’m tywys y’mysg teyrn
I gaerau cedyrn gorau ceidwad?
A phwy i Edom, yn dhiomwedh,
A’m dwg i? unwedh meudwy ganiad:
10Yn digio yleni, Duw, i ’n dig’lonnaist;
I ffo i ’n heliaist a ’n ffyn hwyliad.
Heb d’wyso yno yn dhianair,
Anllawen y cair ein llu a ’n cad;
11Rhag blinfyd y byd bid Duw yn borth,
A daw i ’n cymmorth Dewin ceimiad.
Ofernerth a serth ydyw pob son
A allo dynion lleia’ doniad;
12Rhown hyder tyner arnat union,
O wyrth diwyd Iôn, o nerth Duw Dad.
Y gelyn isod gwael yn wasarn,
Syth a yrri ’n sarn, a sethri ’n sad.
Currently Selected:
Psalmau 60: SC1595
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.