Psalmau 61
61
Y Psalm. LXI. Cyrch a Chwtta.
1Gwir Unduw ’nghred, gwrando ’nghri,
Coelia ’ngwaedh, clyw ’y ngwedhi:
2O eithaf daear wythi,
A golau fyth, galwaf fi;
A chalon a dhymchweli,
3Wyt nodhed mawrged i mi;
A diogel i’m dygi
I’th lan seintwar dwysgar di;
Yn erbyn gelyn, gwelwyd,
Tŵr ydwyd a waredi.
4Byth y trigaf, Naf, a ’n Iôn,
Dêg annedh, i’th dai gwỳnion:
Ceisiaf gysgod, dwysglod dòn,
D’adenydh diwyd, union:
5Cefais wedh etifedhion,
Ce’s fy ngwrandaw, distaw dôn;
Caiff a ofno, llwydho llon,
Dy enw y’mysg dynion:
6Y brenhin a fydh breinniawg,
Hir‐oesawg, heb ymryson.
7Yn wastad hwn a eistedh
Ger bron Duw, Mawrdhuw, a ’n medh;
A gyrrai ei drugaredh,
Iôn hael, yw gadw mewn hedh;
A’th air in’, a’th wirionedh,
8Cana’ gwn ir cu enw gwedh:
I’th lŷs tragwydhawl, a’th wledh,
Yno daw yn y diwedh:
Beunydh fy adhaw ’n bennaf
A dalaf rhag dïaledh.
Currently Selected:
Psalmau 61: SC1595
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.