YouVersion Logo
Search Icon

Caniad Solomon 4

4
1Mor brydferth wyt, f'anwylyd,
mor brydferth wyt!
Y tu ôl i'th orchudd y mae dy lygaid fel colomennod,
a'th wallt fel diadell o eifr
yn dod i lawr o Fynydd Gilead.
2Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid wedi eu cneifio
yn dod i fyny o'r olchfa,
y cwbl ohonynt yn efeilliaid,
heb un yn amddifad.
3Y mae dy wefusau fel edau ysgarlad,
a'th enau yn hyfryd;
y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlais
fel darn o bomgranad.
4Y mae dy wddf fel tŵr Dafydd,
wedi ei adeiladu, rhes ar res,
a mil o estylch yn crogi arno,
y cwbl ohonynt yn darianau rhyfelwyr.
5Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,
gefeilliaid ewig yn pori ymysg y lilïau.
6Cyn i awel y dydd godi,
ac i'r cysgodion ddiflannu,
fe af i'r mynydd myrr,
ac i fryn y thus.
7Yr wyt i gyd yn brydferth, f'anwylyd;
nid oes yr un brycheuyn arnat.
8O briodferch, tyrd gyda mi o Lebanon,
tyrd gyda mi o Lebanon;
tyrd i lawr o gopa Amana,
ac o ben Senir a Hermon,
o ffeuau'r llewod
a mynyddoedd y llewpardiaid.
9Fy chwaer a'm priodferch, yr wyt wedi ennill fy nghalon,
wedi ennill fy nghalon ag un edrychiad,
ag un gem o'r gadwyn am dy wddf.
10Mor hyfryd yw dy gariad, fy chwaer a'm priodferch!
Y mae dy gariad yn well na gwin,
ac arogl dy bersawr yn hyfrytach na'r holl berlysiau.
11O briodferch, y mae dy wefusau'n diferu diliau mêl,
y mae mêl a llaeth dan dy dafod,
ac y mae arogl dy ddillad fel arogl Lebanon.
12Gardd wedi ei chau i mewn yw fy chwaer a'm priodferch,
gardd#4:12 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, pentwr. wedi ei chau i mewn, ffynnon wedi ei selio.
13Y mae dy blanhigion yn berllan o bomgranadau,
yn llawn o'r ffrwythau gorau,
henna a nard,
14nard a saffrwn, calamus a sinamon,
hefyd yr holl goed thus,
myrr ac aloes a'r holl berlysiau gorau.
15Y mae'r ffynnon yn yr ardd yn ffynnon o ddyfroedd byw
yn ffrydio o Lebanon.
16Deffro, O wynt y gogledd,
a thyrd, O wynt y de;
chwyth ar fy ngardd
i wasgaru ei phersawr.
Doed fy nghariad i'w ardd,
a bwyta ei ffrwyth gorau.

Currently Selected:

Caniad Solomon 4: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in