YouVersion Logo
Search Icon

Caniad Solomon 3

3
1Bob nos ar fy ngwely
ceisiais fy nghariad;
fe'i ceisiais, ond heb ei gael.
2Mi godais, a mynd o amgylch y dref,
trwy'r heolydd a'r strydoedd;
chwiliais am fy nghariad;
chwilio, ond heb ei gael.
3Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod,
wrth iddynt fynd o amgylch y dref,
a gofynnais, “A welsoch chwi fy nghariad?”
4Ymhen ychydig wedi imi eu gadael,
fe gefais fy nghariad;
gafaelais ynddo, a gwrthod ei ollwng
nes ei ddwyn i dŷ fy mam,
i ystafell yr un a esgorodd arnaf.
5Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch
yn enw iyrchod ac ewigod y maes.
Peidiwch â deffro na tharfu f'anwylyd
nes y bydd hi'n dymuno.
Y Trydydd Caniad
6Beth yw hyn sy'n dod o'r anialwch,
fel colofn o fwg
yn llawn arogl o fyrr a thus,
ac o bowdrau marsiandïwr?
7Dyma gerbyd Solomon;
o'i gylch y mae trigain o ddynion cryfion,
y rhai cryfaf yn Israel,
8pob un yn cario cleddyf,
ac wedi ei hyfforddi i ryfela,
pob un â'i gleddyf ar ei glun,
yn barod ar gyfer dychryn yn y nos.
9Gwnaeth y Brenin Solomon iddo'i hun
gadair gludo o goed Lebanon,
10gyda'i pholion o arian,
ei chefn o aur, ei sedd o borffor,
a'r tu mewn iddi yn lledr
o waith merched Jerwsalem.
11Dewch allan, ferched Seion,
edrychwch ar y Brenin Solomon
yn gwisgo'r goron a roddodd ei fam iddo
ar ddydd ei briodas,
y dydd pan oedd yn llawen.

Currently Selected:

Caniad Solomon 3: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in