YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 98

98
Salm.
1Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,
oherwydd gwnaeth ryfeddodau.
Cafodd fuddugoliaeth â'i ddeheulaw
ac â'i fraich sanctaidd.
2Gwnaeth yr ARGLWYDD ei fuddugoliaeth yn hysbys,
datguddiodd ei gyfiawnder o flaen y cenhedloedd.
3Cofiodd ei gariad a'i ffyddlondeb
tuag at dŷ Israel;
gwelodd holl gyrrau'r ddaear
fuddugoliaeth ein Duw.
4Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,
canwch mewn llawenydd a rhowch fawl.
5Canwch fawl i'r ARGLWYDD â'r delyn,
â'r delyn ac â sain cân.
6Â thrwmpedau ac â sain utgorn
bloeddiwch o flaen y Brenin, yr ARGLWYDD.
7Rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,
y byd a phawb sy'n byw ynddo.
8Bydded i'r dyfroedd guro dwylo;
bydded i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd
9o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dyfod i farnu'r ddaear;
bydd yn barnu'r byd â chyfiawnder,
a'r bobloedd ag uniondeb.

Currently Selected:

Y Salmau 98: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy