YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 97

97
1Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; gorfoledded y ddaear,
bydded ynysoedd lawer yn llawen.
2Y mae cymylau a thywyllwch o'i amgylch,
cyfiawnder a barn yn sylfaen i'w orsedd.
3Y mae tân yn mynd o'i flaen,
ac yn llosgi ei elynion oddi amgylch.
4Y mae ei fellt yn goleuo'r byd,
a'r ddaear yn gweld ac yn crynu.
5Y mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD,
o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
6Y mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,
a'r holl bobloedd yn gweld ei ogoniant.
7Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwau
sy'n ymffrostio mewn eilunod;
ymgrymwch iddo ef, yr holl dduwiau.
8Clywodd Seion a llawenhau,
ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoleddu
o achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD.
9Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn oruchaf dros yr holl ddaear;
yr wyt wedi dy ddyrchafu'n uwch o lawer na'r holl dduwiau.
10Y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni,
y mae'n cadw bywydau ei ffyddloniaid,
ac yn eu gwaredu o ddwylo'r drygionus.
11Heuwyd goleuni ar y cyfiawn,
a llawenydd ar yr uniawn o galon.
12Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, rai cyfiawn,
a moliannwch ei enw sanctaidd.

Currently Selected:

Y Salmau 97: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in