YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 124

124
Cân Esgyniad. I Ddafydd.
1Oni bai i'r ARGLWYDD fod o'n tu—
dyweded Israel hynny—
2oni bai i'r ARGLWYDD fod o'n tu
pan gododd rhai yn ein herbyn,
3byddent wedi'n llyncu'n fyw
wrth i'w llid losgi tuag atom;
4byddai'r dyfroedd wedi'n cario ymaith
a'r llif wedi mynd dros ein pennau;
5ie, drosom yr âi
dygyfor y tonnau.
6Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD
am iddo beidio â'n rhoi
yn ysglyfaeth i'w dannedd.
7Yr ydym wedi dianc fel aderyn
o fagl yr heliwr;
torrodd y fagl,
yr ydym ninnau'n rhydd.
8Ein cymorth sydd yn enw'r ARGLWYDD,
creawdwr nefoedd a daear.

Currently Selected:

Y Salmau 124: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in