YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 123

123
Cân Esgyniad.
1Yr wyf yn codi fy llygaid atat ti
sy'n eistedd yn y nefoedd.
2Fel y mae llygaid gweision yn gwylio llaw eu meistr,
a llygaid caethferch yn gwylio llaw ei meistres,
felly y mae ein llygaid ninnau yn gwylio'r ARGLWYDD ein Duw
nes iddo drugarhau wrthym.
3Bydd drugarog wrthym, O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthym,
oherwydd fe gawsom ddigon o sarhad.
4Yn rhy hir y cawsom ddigon ar wawd y trahaus
ac ar sarhad y beilchion.

Currently Selected:

Y Salmau 123: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in