YouVersion Logo
Search Icon

Barnwyr 14

14
Samson yn Priodi Merch o Timna
1Aeth Samson i Timna, ac yno sylwodd ar un o ferched y Philistiaid. 2Pan ddychwelodd, dywedodd wrth ei dad a'i fam, “Yr wyf wedi gweld un o ferched y Philistiaid yn Timna; cymerwch honno'n wraig imi.” 3Ac meddai ei dad a'i fam wrtho, “Onid oes gwraig iti ymhlith merched dy gymrodyr a'th holl geraint? Pam yr ei i geisio gwraig o blith y Philistiaid dienwaededig?” Ond dywedodd Samson wrth ei dad, “Cymer honno imi, oherwydd hi sydd wrth fy modd.” 4Ni wyddai ei dad a'i fam mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, ac mai ceisio achos yn erbyn y Philistiaid yr oedd ef. Yr adeg honno y Philistiaid oedd yn arglwyddiaethu ar Israel.
5Aeth Samson i lawr gyda'i dad a'i fam i Timna, a phan gyrhaeddodd winllannoedd Timna, daeth llew ifanc i'w gyfarfod dan ruo. 6Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Samson, a holltodd y llew ifanc fel hollti myn, heb ddim yn ei law; ond ni ddywedodd wrth ei rieni beth a wnaeth. 7Yna aeth Samson yn ei flaen i siarad gyda'r ferch, a'i chael wrth ei fodd. 8Pan ddychwelodd ymhen amser i'w phriodi, trodd i edrych ar ysgerbwd y llew, a dyna lle'r oedd haid o wenyn a mêl y tu mewn i'r corff. 9Cymerodd beth o'r mêl yn ei law, ac aeth yn ei flaen dan fwyta, nes dod at ei dad a'i fam; rhoddodd beth hefyd iddynt hwy i'w fwyta, heb ddweud wrthynt mai o gorff y llew y daeth y mêl. 10Aeth ei dad i lawr at y ferch, a gwnaeth Samson wledd yno yn ôl arfer y gwŷr ifainc. 11Pan welsant ef, dewiswyd deg ar hugain o gyfeillion i gadw cwmni iddo. 12Ac meddai Samson wrthynt, “Yr wyf am osod pos i chwi; os llwyddwch i'w ateb yn gywir yn ystod saith diwrnod y wledd, rhof i chwi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad. 13Ond os methwch roi'r ateb imi, rhaid i chwi roi i mi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad.” 14Dywedasant wrtho, “Mynega dy bos, inni ei glywed.” A dywedodd wrthynt:
“O'r bwytawr fe ddaeth bwyd,
ac o'r cryf fe ddaeth melystra.”
Am dridiau buont yn methu ateb y pos. 15Ar y pedwerydd#14:15 Felly Fersiynau. Hebraeg, seithfed. dydd dywedasant wrth wraig Samson, “Huda dy ŵr i ddatgelu'r pos inni, neu fe'th losgwn di a'th deulu. Ai er mwyn ein tlodi y rhoesoch wahoddiad inni yma#14:15 Felly rhai llawysgrifau a Targwm. TM yn aneglur.?” 16Aeth gwraig Samson ato yn ei dagrau a dweud, “Fy nghasáu yr wyt ti, nid fy ngharu; rwyt wedi gosod pos i lanciau fy mhobl heb ei egluro i mi.” Ac meddai yntau, “Nid wyf wedi ei egluro i'm tad a'm mam; pam yr eglurwn ef i ti?” 17Bu'n wylo wrtho trwy gydol y saith diwrnod y cynhaliwyd y wledd, ac ar y seithfed dydd fe'i heglurodd iddi, am ei bod wedi ei flino. Eglurodd hithau'r pos i lanciau ei phobl. 18A dywedodd dynion y dref wrtho ar y seithfed diwrnod, cyn i'r haul fachlud:
“Beth sy'n felysach na mêl,
a beth sy'n gryfach na llew?”
Dywedodd yntau wrthynt:
“Oni bai i chwi aredig â'm heffer,
ni fyddech wedi datrys fy mhos.”
19Yna disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth i lawr i Ascalon a lladdodd ddeg ar hugain o ddynion. Cymerodd eu gwisgoedd a rhoi'r siwtiau i'r rhai a atebodd y pos, ond yr oedd wedi digio'n enbyd ac aeth yn ei ôl adref. 20Rhoddwyd gwraig Samson i'w gyfaill, a fu'n was priodas iddo.

Currently Selected:

Barnwyr 14: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in