YouVersion Logo
Search Icon

Barnwyr 13

13
Genedigaeth Samson
1Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw'r Philistiaid am ddeugain mlynedd.
2Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Manoa o Sora, o lwyth Dan, ac yr oedd ei wraig yn ddi-blant, heb eni yr un plentyn. 3Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD i'r wraig a dweud wrthi, “Dyma ti yn ddi-blant, heb eni plentyn, ond byddi'n beichiogi ac yn geni mab. 4Felly, gwylia rhag yfed gwin na diod gadarn, a phaid â bwyta dim aflan, 5gan dy fod yn mynd i feichiogi a geni mab; ac nid yw ellyn i gyffwrdd â'i ben, oherwydd y mae'r bachgen i fod yn Nasaread i Dduw o'r groth. Ef fydd yn dechrau gwaredu Israel o law'r Philistiaid.” 6Aeth y wraig at ei gŵr a dweud, “Daeth gŵr Duw ataf, a'i wedd fel angel Duw, yn frawychus iawn; ni ofynnais iddo o ble'r oedd, ac ni ddywedodd ei enw wrthyf. 7Fe ddywedodd wrthyf, ‘Byddi'n beichiogi ac yn geni mab; felly paid ag yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan, oherwydd bydd y bachgen yn Nasaread i Dduw o'r groth hyd ddydd ei farw.’ ” 8Gweddïodd Manoa ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd, os gweli'n dda, gad i'r gŵr Duw a anfonaist ddod yn ôl atom i'n cyfarwyddo beth i'w wneud i'r bachgen a enir.” 9Gwrandawodd Duw ar gais Manoa, a daeth angel Duw eto at y wraig, pan oedd hi'n eistedd allan yn y maes, a'i gŵr Manoa heb fod gyda hi. 10Rhedodd hithau ar unwaith a dweud wrth ei gŵr, “Y mae'r dyn a ddaeth ataf y diwrnod hwnnw wedi ymddangos eto.” 11Cododd Manoa a dilynodd ei wraig at y dyn a gofyn iddo, “Ai ti yw'r gŵr a fu'n siarad gyda'm gwraig?” Ac meddai yntau, “Ie.” 12Gofynnodd Manoa iddo, “Pan wireddir dy air, sut fachgen fydd ef, a beth fydd ei waith?” 13Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Manoa, “Rhaid i'th wraig ofalu am bopeth a ddywedais wrthi; 14nid yw hi i fwyta dim a ddaw o'r winwydden, nac i yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan. 15Y mae i gadw'r cwbl a orchmynnais iddi.” Yna dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr ydym am dy gadw yma nes y byddwn wedi paratoi myn gafr ar dy gyfer.” 16Ond atebodd angel yr ARGLWYDD ef, “Pe bait yn fy nghadw yma, ni fyddwn yn bwyta dy fwyd, ond os wyt am offrymu poethoffrwm, offryma ef i'r ARGLWYDD.” Ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD ydoedd, 17a gofynnodd iddo, “Beth yw d'enw, inni gael dy anrhydeddu pan wireddir dy air?” 18Atebodd angel yr ARGLWYDD, “Pam yr wyt ti'n holi fel hyn ynghylch fy enw? Y mae'n rhyfeddol!” 19Yna cymerodd Manoa'r myn gafr a'r bwydoffrwm, a'u hoffrymu i'r ARGLWYDD ar y graig, a digwyddodd rhyfeddod tra oedd Manoa a'i wraig yn edrych. 20Fel yr oedd y fflam yn codi oddi ar yr allor i'r awyr, esgynnodd angel yr ARGLWYDD yn fflam yr allor. Yr oedd Manoa a'i wraig yn edrych, a syrthiasant ar eu hwynebau ar lawr. 21Nid ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddynt mwyach, a sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd. 22Yna dywedodd Manoa wrth ei wraig, “Yr ydym yn sicr o farw am inni weld Duw.” 23Ond meddai hi wrtho, “Pe byddai'r ARGLWYDD wedi dymuno ein lladd, ni fyddai wedi derbyn poethoffrwm a bwydoffrwm o'n llaw, na dangos yr holl bethau hyn i ni, na pheri inni glywed pethau fel hyn yn awr.” 24Wedi i'r wraig eni mab, galwodd ef Samson; tyfodd y bachgen dan fendith yr ARGLWYDD, 25a dechreuodd ysbryd yr ARGLWYDD ei gynhyrfu yn Mahane-dan, rhwng Sora ac Estaol.

Currently Selected:

Barnwyr 13: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in