YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 24

24
Dinistr ar y Ddaear
1Wele, y mae'r ARGLWYDD yn gwacáu'r ddaear,
yn ei difrodi, yn ei throi â'i hwyneb i waered,
ac yn gyrru ei thrigolion ar wasgar.
2Bydd yr un ffunud i bobl ac i offeiriad,
i was ac i feistr, i lawforwyn ac i feistres,
i brynwr ac i werthwr, i echwynnwr ac i fenthyciwr,
i'r un sy'n derbyn llog ac i'r un sy'n ei dalu.
3Gwneir y ddaear yn gwbl wag, a'i hysbeilio'n llwyr.
Oherwydd yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn.
4Gwywodd y ddaear a chrino,
dihoenodd y byd ac edwino, dihoenodd uchelfeydd y ddaear#24:4 Felly Groeg. Hebraeg, uchelfeydd pobl y ddaear..
5Halogwyd y ddaear gan ei phreswylwyr,
am iddynt dorri'r cyfreithiau, newid y deddfau
a diddymu'r cyfamod tragwyddol.
6Am hynny fe ysir y wlad gan felltith,
a chosbir ei thrigolion;
am hynny hefyd fe â'r trigolion yn llai a llai,
ac ychydig fydd yn weddill.
7Fe â'r gwin newydd yn wan,
dihoena'r winwydden,
a thry'r gorfoleddwyr i riddfan.
8Bydd sŵn llawen y tympanau yn peidio,
a thrwst y gyfeddach yn distewi,
a'r delyn hyfryd yn dawel.
9Ni fydd yfed gwin yn sŵn canu;
bydd y ddiod yn chwerw i'r yfwr.
10Bydd dinas anhrefn wedi ei dryllio,
a phob tŷ ar glo rhag i neb fynd iddo.
11Er galw am win yn yr heolydd,
bydd diwedd ar bob cyfeddach,
a diflanna llawenydd o'r wlad.
12Anghyfanedd-dra yn unig a adewir yn y ddinas,
a bydd ei phyrth wedi eu dryllio'n gandryll.
13Felly y bydd dros y byd i gyd ymhlith y bobloedd,
fel ar adeg ysgwyd yr olewydd
a lloffa'r gwinwydd ar ôl y cynhaeaf.
14Byddant yn codi llef a llawenhau,
datganant glod yr ARGLWYDD o'r gorllewin.
15Am hynny taler parch i'r ARGLWYDD yn y dwyrain,
i enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ynysoedd y gorllewin.
16O eithafoedd y ddaear fe glywn orfoledd:
“Gogoniant i'r Un Cyfiawn.”
Ond fe ddywedaf fi, “Nychdod! Nychdod!
Gwae fi! y twyllwyr a dwyllodd, twyllwyr a dwyllodd â'u twyll.”
17Dychryn, pwll, magl
sydd ar dy gyfer, breswylydd y tir;
18y sawl a ffy o drwst y dychryn
a syrth i'r pwll,
a'r sawl a gyfyd o ganol y pwll
a ddelir yn y fagl.
Oherwydd agorir ffenestri'r uchelder,
ac fe gryna seiliau'r ddaear;
19dryllir y ddaear yn deilchion,
ei rhwygo drwyddi a'i hysgwyd yn ffyrnig;
20bydd y ddaear yn gwegian yn ôl a blaen fel meddwyn,
yn siglo fel caban gwyliwr;
bydd pwysau ei chamwedd mor drwm arni,
fel y bydd yn syrthio heb godi byth mwy.
21Yn y dydd hwnnw fe gosba'r ARGLWYDD lu'r nef yn y nef,
a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.
22Fe'u cesglir ynghyd, yn glos fel carcharorion mewn cell;
caeir arnynt yng ngharchar, a'u cosbi ymhen amser hir.
23Gwaradwyddir y lloer,
a chywilyddia'r haul,
oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoedd
ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem,
a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.

Currently Selected:

Eseia 24: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in