YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 23

23
Yn Erbyn Tyrus
1Yr oracl am Tyrus:
Udwch, longau Tarsis, oherwydd anrheithiwyd y porthladd;
wrth groesi o dir Chittim fe welir hynny.
2Wylwch, drigolion y glannau,
masnachwyr Sidon, sy'n tramwyo'r môr,
3a'th weision ar y dyfroedd mawrion#23:3 Cymh. Fersiynau a Sgrôl. TM, cyflawnodd di. Ar y dyfroedd mawrion…;
cnwd Sihor, cynhaeaf y Neil, oedd dy gyllid,
a masnachwr y cenhedloedd oeddit ti.
4Cywilydd arnat, Sidon, canys llefarodd y môr,
caer y môr, a dweud,
“Nid wyf mewn gwewyr nac yn esgor,
nac yn magu llanciau nac yn meithrin morynion.”
5Pan ddaw'r newydd i'r Aifft,
gwingant wrth glywed am Tyrus.
6Ewch drosodd i Tarsis;
udwch, drigolion y glannau.
7Ai hon yw eich dinas brysur,
sydd â'i hanes mor hen,
a'i theithio wedi mynd â hi
i ymsefydlu mor bell?
8Pwy a gynlluniodd hyn yn erbyn Tyrus goronog,
oedd â'i masnachwyr yn dywysogion
a'i marchnatwyr yn fawrion y ddaear?
9 ARGLWYDD y Lluoedd a'i cynlluniodd,
i ddifwyno pob gogoniant balch,
i ddiraddio holl fawrion y ddaear.
10Dos trwy dy dir, fel y gwna'r Neil, ferch Tarsis;
nid oes atalfa mwyach.
11Estynnodd yr ARGLWYDD ei law dros y môr,
ysgydwodd deyrnasoedd;
rhoes orchymyn ynghylch Canaan,
i ddinistrio ei cheyrydd.
12A dywedodd,
“Ni chei ymffrostio ddim mwy,
ti forwyn a orthrymwyd, ferch Sidon;
cod, dos drosodd i Chittim,
ond ni chei orffwys yno chwaith.”
13Edrych ar wlad y Caldeaid. Y rhain—nid yr Asyriaid—yw'r bobl a bennodd Tyrus i'r anifeiliaid gwylltion. Hwy a gododd warchae, a dryllio'i phalasau, a'i thynnu i lawr yn adfeilion.
14Udwch, chwi longau Tarsis,
oherwydd anrheithiwyd eich amddiffynfa.
15Yn yr amser hwnnw fe anghofir Tyrus am ddeng mlynedd a thrigain, sef hyd einioes un brenin; ac ymhen deng mlynedd a thrigain bydd cyflwr Tyrus fel y butain yn y gân:
16“Cymer dy delyn, rhodianna trwy'r ddinas,
di butain a anghofiwyd;
tyn yn dyner ar y tannau,
cân dy ganeuon yn aml,
fel y cofir di drachefn.”
17Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain, bydd yr ARGLWYDD yn ymweld eto â Tyrus; fe â hithau'n ôl at ei masnach a'i llogi ei hun i bob teyrnas ar y ddaear. 18Ond bydd ei helw a'i henillion wedi eu neilltuo i'r ARGLWYDD; ni chronnir hwy na'u cuddio, ond bydd ei masnach yn darparu llawnder o fwyd a gwisgoedd hardd i'r rhai sy'n byw yng ngŵydd yr ARGLWYDD.

Currently Selected:

Eseia 23: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in