YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 11

11
Cangen o Jesse
1O'r cyff a adewir i Jesse fe ddaw blaguryn,
ac fe dyf cangen o'i wraidd ef;
2bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno,
yn ysbryd doethineb a deall,
yn ysbryd cyngor a grym,
yn ysbryd gwybodaeth ac ofn yr ARGLWYDD;
3ymhyfryda yn ofn yr ARGLWYDD.
Nid wrth yr hyn a wêl y barna,
ac nid wrth yr hyn a glyw y dyfarna,
4ond fe farna'r tlawd yn gyfiawn
a dyfarnu'n uniawn i rai anghenus y ddaear.
Fe dery'r ddaear â gwialen ei enau,
ac â gwynt ei wefusau fe ladd y rhai drygionus.
5Cyfiawnder fydd gwregys ei lwynau
a ffyddlondeb yn rhwymyn am ei ganol.
6Fe drig y blaidd gyda'r oen,
fe orwedd y llewpard gyda'r myn;
bydd y llo a'r llew yn cydbori#11:6 Felly Sgrôl A a'r Groeg. TM, a'r anifail bras ynghyd.,
a bachgen bychan yn eu harwain.
7Bydd y fuwch yn pori gyda'r arth,
a'u llydnod yn cydorwedd;
bydd y llew yn bwyta gwair fel ych.
8Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb,
a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber.
9Ni wnânt ddrwg na difrod
yn fy holl fynydd sanctaidd,
canys fel y lleinw'r dyfroedd y môr i'w ymylon,
felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.
10Ac yn y dydd hwnnw
bydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd;
bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef,
a bydd ei drigfan yn ogoneddus.
11Ac yn y dydd hwnnw
fe estyn yr ARGLWYDD ei law drachefn
i adennill gweddill ei bobl
a adewir, o Asyria a'r Aifft,
o Pathros ac Ethiopia ac Elam,
o Sinar a Hamath ac o ynysoedd y môr.
12Fe gyfyd faner i'r cenhedloedd,
a chasglu alltudion Israel;
fe gynnull rai gwasgar Jwda
o bedwar ban y byd.
13Diflanna cenfigen Effraim,
a thorrir ymaith elynion Jwda.
Ni chenfigenna Effraim wrth Jwda,
ac ni fydd Jwda'n gwrthwynebu Effraim.
14Ond disgynnant ar lethrau'r Philistiaid yn y gorllewin,
ac ynghyd fe ysbeiliant y dwyreinwyr;
bydd Edom a Moab o fewn eu gafael,
a phlant Ammon yn ufudd iddynt.
15Gwna'r ARGLWYDD yn sychdir#11:15 Felly Groeg. Hebraeg, Llwyr ddifoda'r ARGLWYDD.
dafod môr yr Aifft;
chwifia'i law dros yr Ewffrates,
ac â'i wynt deifiol
fe'i hollta yn saith o ffrydiau,
i'w throedio yn droetsych.
16A bydd priffordd i weddill ei bobl,
i'r gweddill a adewir o Asyria,
megis y bu i Israel
pan ddaeth i fyny o wlad yr Aifft.

Currently Selected:

Eseia 11: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in