YouVersion Logo
Search Icon

Eseia 10

10
1Gwae'r rhai a wnânt ddeddfau anghyfiawn
a deddfu gormes yn ddi-baid;
2i droi'r tlodion oddi wrth farn,
ac amddifadu'r anghenus o blith fy mhobl o'u hawliau;
i wneud gweddwon yn ysbail iddynt
a'r rhai amddifad yn anrhaith.
3Beth a wnewch yn nydd y dial,
yn y dinistr a ddaw o bell?
At bwy y ffowch am help?
Ple y gadewch eich cyfoeth,
4i osgoi crymu ymhlith y carcharorion
a syrthio ymhlith y lladdedigion?
Er hynny, ni throdd ei lid ef,
ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
Asyria yn Llaw Duw
5“Gwae Asyria, gwialen fy llid;
hi yw ffon fy nigofaint#10:5 Hebraeg yn ychwanegu yn eu llaw..
6Anfonaf hi yn erbyn cenedl annuwiol,
a rhof orchymyn iddi yn erbyn pobl fy nicter,
i gymryd ysbail ac i anrheithio,
a'u mathru dan draed fel baw'r heolydd.
7Ond nid yw hi'n amcanu fel hyn,
ac nid yw'n bwriadu felly;
canys y mae ei bryd ar ddifetha
a thorri ymaith genhedloedd lawer.
8Fe ddywed,
‘Onid yw fy swyddogion i gyd yn frenhinoedd?
9Onid yw Calno fel Carchemis,
a Hamath fel Arpad,
a Samaria fel Damascus?’
10Fel yr estynnais fy llaw hyd at deyrnasoedd eilunod,
a oedd â'u delwau'n amlach na rhai Jerwsalem a Samaria,
11ac fel y gwneuthum i Samaria ac i'w delwau hi,
oni wnaf felly hefyd i Jerwsalem a'i heilunod?”
12Pan orffen yr ARGLWYDD ei holl waith ar Fynydd Seion a Jerwsalem, fe gosba ymffrost trahaus brenin Asyria a hunanhyder ei ysbryd am iddo ddweud,
13“Yn fy nerth fy hun y gwneuthum hyn,
a thrwy fy noethineb, pan oeddwn yn cynllunio.
Symudais ffiniau cenhedloedd,
ysbeiliais eu trysorau;
fel tarw bwriais i lawr y trigolion.
14Cefais hyd i gyfoeth y bobl fel nyth;
ac fel y bydd dyn yn casglu wyau wedi eu gadael,
felly y cesglais innau bob gwlad ynghyd;
nid oedd adain yn symud
na phig yn agor i glochdar.”
15A ymffrostia'r fwyell yn erbyn y cymynwr?
A ymfawryga'r llif yn erbyn yr hwn a'i tyn?
Fel pe bai gwialen yn ysgwyd yr un sy'n ei chwifio,
neu ffon yn trin un nad yw'n bren!
16Am hynny bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,
yn anfon clefyd i nychu ei ryfelwyr praff,
a than ei ogoniant fe gyfyd twymyn
fel llosgiad tân.
17Bydd Goleuni Israel yn dân
a'i Un Sanctaidd yn fflam;
fe lysg ac fe ysa
ei ddrain a'i fieri mewn un dydd.
18Fe ddifoda ogoniant ei goedwig a'i ddoldir,
fel claf yn nychu, yn enaid a chorff.
19A bydd gweddill prennau ei goedwig mor brin
nes y bydd plentyn yn gallu eu cyfrif.
Gweddill Israel
20Yn y dydd hwnnw ni fydd gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd yn nhŷ Jacob, yn pwyso bellach ar yr un a'u trawodd; ond pwysant yn llwyr ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel.
21Bydd gweddill yn dychwel, gweddill Jacob,
at Dduw sydd yn gadarn.
22Canys, er i'th bobl Israel fod fel tywod y môr,
gweddill yn unig fydd yn dychwel.
Cyhoeddwyd dinistr, yn gorlifo mewn cyfiawnder.
23Canys bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,
yn gwneud dinistr terfynol
yng nghanol yr holl ddaear.
Darostwng Asyria
24Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: “Fy mhobl, sy'n preswylio yn Seion, paid ag ofni rhag yr Asyriaid, er iddynt dy guro â gwialen, a chodi eu ffon yn dy erbyn fel y gwnaeth yr Eifftiaid. 25Canys ymhen ychydig bach fe dderfydd fy llid, a bydd fy nigofaint yn troi i'w difetha hwy. 26A bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ysgwyd chwip yn eu herbyn, fel y gwnaeth yn lladdfa Midian wrth garreg Oreb, ac yn codi ei wialen dros y môr fel y cododd hi dros yr Aifft.”
27Yn y dydd hwnnw
symudir ei faich oddi ar dy ysgwydd,
a dryllio'i iau oddi ar dy war.
Esgynnodd o Rimmon#10:27 Tebygol. Hebraeg yn aneglur.,
28daeth at Aiath,
tramwyodd drwy Migron,
rhoddodd ei gelfi i'w cadw yn Michmas;
29aethant dros Maabara
ac aros dros nos yn Geba.
Dychrynodd Rama, arswydodd Gibea Saul.
30Bloeddia'n groch, Bath-galim;
gwrando arni, Lais; ateb hi, Anathoth.
31Y mae Madmena ar ffo,
a phobl Gebim yn chwilio am nodded.
32Heddiw y mae'n sefyll yn Nob,
ac yn cau ei ddwrn yn erbyn mynydd merch Seion,
bryn Jerwsalem.
33Wele yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,
yn cymynu'r prennau yn frawychus;
torrir ymaith y rhai talgryf,
a chwympir y rhai uchel.
34Tyr â bwyell lwyni'r goedwig,
a syrth Lebanon a'i choed cadarn#10:34 Felly Groeg. Hebraeg, trwy un cadarn..

Currently Selected:

Eseia 10: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in